Ymchwiliad i ymosodiad honedig yn Y Trallwng
28/10/2024
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi i ddyn gael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig yn y Trallwng, Powys.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal Stryd Aberriw am 01:00 fore Sul.
Mae'r dyn 21 oed mewn cyflwr sefydlog.
Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae e bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu drwy e-bostio.