Newyddion S4C

Gwraig Syr Chris Hoy wedi cadw ei diagnosis MS yn gyfrinach

28/10/2024
Chris Hoy a Sarra Hoy

Mae Syr Chris Hoy wedi dweud fod ei wraig 'anhunanol', Sarra, wedi cadw ei diagnosis o sglerosis ymledol (MS) yn gyfrinach wrth iddo ddelio â'i driniaeth canser y brostad.

Fe ddatgelodd Syr Chris yr wythnos diwethaf fod ganddo ganser terfynol.

Ychwanegodd fod doctoriaid wedi dweud fod ganddo rhwng dwy a phedair blynedd i fyw.

Cafodd ddiagnosis o ganser fis Chwefror eleni ond nid oedd y math o ganser wedi ei ddatgelu bryd hynny.

Mae Chris Hoy yn un o ffigyrau mwyaf llwyddiannus Prydain erioed yn y Gemau Olympaidd.

Mewn detholiad o'i hunangofiant All That Matters: My Toughest Race Yet, mae'r seiclwr trac yn dweud fod ei wraig Sarra wedi dangos "cefnogaeth ddiflino" tra hefyd "yn wynebu ei hargyfwng ei hun".

Fe aeth Sarra am sgan MRI wythnos ar ôl diagnosis ei gŵr ar ôl profi teimlad rhyfedd yn ei hwyneb ac ar ei thafod.

Dywedodd Syr Chris ei bod hi wedi "parhau i'w gefnogi yn llawn" ar ôl y sgan ac ni feddyliodd unrhyw beth mwy amdano ar ôl hynny gan fod ei symptomau wedi diflannu.

'Torri lawr yn syth'

Ond fe ddatgelodd bod ei wraig "yn ei chael hi'n anodd cael y geiriau allan" wrth iddi gyhoeddi'r newyddion am ei diagnosis iddo ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Syr Chris ei fod "wedi torri lawr yn syth" a'i fod "wedi ei lorio gan y newyddion yn ogystal â'r ffaith nad oedd gyda'i wraig wrth iddi dderbyn y diagnosis".

Mae'n dweud yn ei hunangofiant fod ei wraig wedi gwybod am fwy na mis am ei diagnosis.

"Roedd hi'n anodd ceisio prosesu ei bod hi wedi derbyn y newyddion ofnadwy am y diagnosis ar ei phen ei hun, heb rannu gyda mi, er mwyn fy amddiffyn," meddai.

"Doeddwn i ddim yn coelio'r hyn yr oeddwn i yn ei glywed: Roedd Sarra, sydd mor ffit ac iach, yn wynebu'r argyfwng yma yng nghanol fy un i."

Yn ddiweddarach y mis hwnnw, fe gafodd Sarra wybod fod ei chyflwr yn "ymosodol ac actif iawn" gan olygu bod angen iddi gael triniaeth "ar unwaith".

Mae Syr Chris yn disgrifio ei wraig fel "canolbwynt ei fywyd" ac mae ganddynt ddau o blant, Callum, 10, a Chloe, 7.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.