Damwain Llanbrynmair: Disgwyl i linell drên y Cambrian ail-agor
Mae disgwyl i linell drên y Cambrian ail-agor wedi digwyddiad ar y rheilffordd nos Lun diwethaf ger Llanbrynmair.
Fe wnaeth ddau drên wrthdaro yn erbyn ei gilydd gan achosi marwolaeth un dyn.
Bu farw Tudor Evans ar y trên a oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth.
Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.
Cafodd 11 o bobl eu hanafu yn y gwrthdrawiad, gyda phedwar arall wedi eu hanafu'n ddifrifol.
Mae'r rheilffordd ger Llanbrynmair wedi bod ar gau ers y gwrthdrawiad ym mhentref Talerddig.
Daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd y gwaith ffordd ar yr A470 yn Nhalerddig oedd fod i ddechrau'r wythnos nesaf yn cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe gafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn y digwyddiad ar y rheilffordd.
Roedd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach i fod i gael ei chau o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr.