Newyddion S4C

Llafur yn gwahardd aelod seneddol yn dilyn fideo sy’n ymddangos ei fod yn dyrnu dyn

27/10/2024
 Mike Amesbury

Mae’r aelod seneddol Llafur Mike Amesbury wedi colli chwip ei blaid ar ôl i fideo ddod i’r amlwg sy’n ymddangos ei fod yn dyrnu dyn.

Dywedodd y blaid Lafur fod AS Runcorn a Helsby wedi’i wahardd o’i waith “wrth aros am ymchwiliad” i’r digwyddiad.

Daw hyn ar ôl i luniau a gyhoeddwyd gan y Mail Online yn dangos ymosodiad honedig gan yr AS, gan daro dyn arall dro ar ôl tro wrth i eraill gerllaw weiddi “paid”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur: “Mae Mike Amesbury AS wedi bod yn cynorthwyo Heddlu Sir Gaer gyda’u hymholiadau yn dilyn digwyddiad nos Wener.

“Gan fod yr ymholiadau hyn bellach yn parhau, mae’r Blaid Lafur wedi atal aelodaeth Mr Amesbury o’r Blaid Lafur yn weinyddol tra’n disgwyl ymchwiliad.”

Daw hyn ar ôl i fideo wahanol ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, yr honnir ei bod yn dangos Mr Amesbury yn gweiddi ar ddyn yn gorwedd ar y stryd yn Frodsham, Sir Gaer.

Cadarnhaodd Heddlu Sir Gaer fod swyddogion wedi’u galw i adroddiadau o ymosodiad yn Frodsham am 02:48 ar 26 Hydref a bod “ymholiadau’n parhau”.

Dywedodd Mr Amesbury y bydd yn “cydweithredu ag unrhyw ymholiadau” ond ei fod yn “benderfynol o barhau i fod yn AS agored a hygyrch i’n cymuned” ar ôl i’r ffilm gychwynnol a ddosbarthwyd ar-lein ymddangos.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cafwyd dyn 56 oed yn euog o stelcian yr AS yn ei swyddfa etholaethol yn Frodsham, lle dywedodd erlynwyr iddo gael ei weld yn syllu drwy’r gwydr a holi gwarchodwyr am lefel eu diogelwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.