Cwmni John Lewis i gyflogi 12,500 o weithwyr ar gyfer y Nadolig
Fe fydd Partneriaeth John Lewis yn cyflogi 12,500 o staff dros dro yn ei hymgyrch recriwtio fwyaf erioed ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Dywedodd y grŵp, sydd â changhennau yng Nghymru, y byddan nhw'n llogi staff ar draws busnesau siopau John Lewis a Waitrose.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod nhw’n cyflogi 4,100 yn fwy o weithwyr dros dro nag yn yr un cyfnod y llynedd.
Fe fydd Waitrose yn dechrau recriwtio 7,700 o swyddi tymhorol ar draws mwy na 300 o siopau yn ystod yr wythnosau nesaf. Maent yn cynnwys cynorthwywyr archfarchnadoedd, gweithwyr shifft nos a gyrwyr dosbarthu i gwsmeriaid.
Mae'r gwaith o recriwtio ar gyfer 2,000 o swyddi dros dro yn 34 o siopau John Lewis eisoes ar y gweill.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn recriwtio tua 2,800 o weithwyr yn ei chadwyn gyflenwi trwy asiantaethau ar gyfer rolau fel gweithwyr warws a gyrwyr i ddelio â galw cynyddol ar-lein.