Rhuthro Amy Dowden i'r ysbyty yn ystod rhaglen nos Sadwrn o Strictly Come Dancing
Cafodd seren Strictly Come Dancing Amy Dowden ei rhuthro i'r ysbyty mewn ambiwlans yn ystod rhaglen nos Sadwrn o'r sioe ddawnsio boblogaidd.
Yn ôl adroddiadau roedd Dowden wedi mynd yn sâl a galwyd am ambwilans ar ôl iddi lewygu yng nghefn y llwyfan.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Dowden: "Roedd Amy yn teimlo'n sâl ac felly galwyd ambiwlans fel rhagofal. Mae'n teimlo'n llawer gwell a hoffai ddiolch i deulu Strictly am eu cariad a'u pryder. Gofynnwn am breifatrwydd Amy mewn materion iechyd yn cael ei barchu yn garedig."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr: “Cawsom ein galw ychydig ar ôl 21:00 ddydd Sadwrn i fynychu argyfwng meddygol yn Elstree Studios yn Borehamwood.
"Cafodd ambiwlans ei anfon i'r lleoliad. Cafodd un claf, menyw oedd yn oedolyn, ei chludo i Ysbyty Barnet am ofal pellach."
Roedd y ddawnswraig 34 oed o Gaerffili wedi dweud ei bod "mor hapus" yn dilyn ei pherfformiad byw cyntaf yn y gyfres ers iddi dderbyn triniaeth am ganser y fron y llynedd.
Nid oedd Ms Dowden yn rhan o'r gyfres boblogaidd y llynedd oherwydd ei bod yn derbyn triniaeth cemotherapi a llawdriniaeth mastectomi.
Ond fe gyhoeddedd ym mis Chwefror ei bod wedi gwella ac yn bwriadu dychwelyd i Strictly Come Dancing wrth i’r gyfres ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.