Newyddion S4C

Ymchwilio i ymosodiad honedig gan ddyn ar ferch 11 oed yng Nghaerdydd

27/10/2024
Heddlu

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ymosodiad ar ferch 11 oed a ddigwyddodd tua 17.30 ddydd Gwener ar lwybr troed yng Nghaerdydd.

Digwyddodd yr ymosodiad honedig rhwng Clwb Golff Caerdydd a Heol Pentwyn sy'n mynd heibio Glyn Rhosyn, Pontprennau.

Roedd y ferch yn mynd â’i chi am dro pan ddaeth dyn gwyn rhwng 30 a 45 oed â gwallt brown byr ati.

Siaradodd gyda hi am ychydig, cyn ymosod arni a'i gwthio i'r llawr a rhedeg i ffwrdd.

Mae'r heddlu eisiau siarad gydag unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a allai fod wedi gweld y dyn wrth iddo redeg i ffwrdd ar hyd y llwybr.

Mae swyddogion yn gofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 2400355935.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.