Cyhuddo dyn o lofruddio dynes 69 oed yn y Rhyl
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddigwyddiad lle bu farw dynes 69 oed yn y Rhyl wedi cyhuddo dyn 33 oed o lofruddiaeth.
Bydd Dean Mark Albert Mears, o Ffordd Bodelwyddan, Bae Cinmel yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Fe gafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Ond yn dilyn marwolaeth y ddynes fe gafodd ei arestio ymhellach ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae dynes 25 oed gafodd ei harestio am gynorthwyo troseddwr bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: “Mae ein hymchwiliad yn parhau, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth nad yw wedi dod ymlaen eto i gysylltu â ni trwy ein sgwrs we fyw neu ar 101. F
"el arall, gallwch siarad â CrimeStoppers yn gyfrinachol ar 0800 555 111. Dyfynnwch gyfeirnod Q161073.”