Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes yn y Rhyl
Mae dyn 33 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 69 oed yn y Rhyl.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y ddynes wedi marw dros nos “ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol”.
Fe gafodd y dyn ei arestio i ddechrau ar amheuaeth o geisio llofruddio. Ond yn dilyn marwolaeth y ddynes fe gafodd ei arestio ymhellach ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae dynes 25 oed gafodd ei harestio am gynorthwyo troseddwr bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae ymholiadau'r heddlu i'r digwyddiadau yn parhau.
Dywedodd y llu: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r dioddefwr ar yr adeg drist hon sy’n cael eu cefnogi gan dimau heddlu arbenigol. Mae Crwner Ei Fawrhydi hefyd wedi cael gwybod.”