Carcharu dyn o Landeilo am ymosodiad gyda sylwedd cemegol
Mae dyn a daflodd sylwedd cemegol dros un arall ger Llandeilo wedi cael ei garcharu am 19 mlynedd.
Fe achosodd Jivan Dean, 24 oed o Landeilo, anafiadau a newidiodd bywyd ei ddioddefwr yn ystod yr ymosodiad gyda sodiwm hydrocsid yn ‘Tipi Valley’ ar 14 Awst.
Cafodd Dean ei arestio ar 17 Awst ar ôl iddo ffoi o’r lleoliad.
Cafodd yr heddlu wybod am yr ymosodiad gan aelod o staff yn Ysbyty Glangwili, lle'r oedd y dioddefwr yn cael ei drin am anafiadau i'w ben, wyneb, llygaid ac ysgwyddau.
Fe welodd staff yr ysbyty ei fod wedi dioddef llosgiadau cemegol, ac y gallai'r difrod i'w lygaid fod yn barhaol.
Dywedodd wrth swyddogion ei fod wedi bod mewn cartref ffrind pan ddaeth dyn allan o’r gegin ac arllwys sylwedd ‘anhygoel o boeth’ drosto.
Gwnaeth yr hylif iddo deimlo ar unwaith fel pe bai'n llosgi.
Yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth Dean gyfaddef i’r troseddau ac fe gafodd ei ddedfrydu i 19 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gary Williams o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hon yn weithred ofnadwy o drais, a gafodd ei chyflawni gyda’r bwriad o achosi niwed sylweddol.
“Dioddefodd y dioddefwr losgiadau cemegol nad oedd staff yr ysbyty erioed wedi’u gweld, ac mae’n debygol y bydd effaith ar ei olwg am weddill ei oes.
“Diolch byth, mae ymosodiadau o’r math hwn yn brin iawn, ond rydym yn cydnabod nad yw hyn yn amharu ar ddifrifoldeb y digwyddiad hwn.
“Ni allwn ond gobeithio y gall y dioddefwr gael rhywfaint o gysur o wybod bod ei ymosodwr wedi’i ddwyn o flaen ei well, a dymunwn yn dda iddo yn ei adferiad.”