Newyddion S4C

Israel yn lansio ymosodiadau o'r awyr ar dargedau milwrol yn Iran

26/10/2024

Israel yn lansio ymosodiadau o'r awyr ar dargedau milwrol yn Iran

Mae Israel wedi targedu safleoedd milwrol Iran mewn ymosodiadau awyr dros nos.

Mae'r cam diweddaraf wedi ei gondemnio gan nifer o wledydd sydd yn gweld y datblygiad fel gweithred beryglus mewn sefyllfa oedd yn fregus yn y rhanbarth yn barod.

Yn ôl Llywodraeth Prydain mae gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun.

Dywedodd byddin Israel, yr IDF, eu bod wedi cynnal y “ymosodiadau manwl” mewn ymateb i’r hyn a elwir yn “ymosodiadau parhaus gan y gyfundrefn yn Iran yn erbyn Israel”.

Dyma'r tro cyntaf i fyddin Israel ymosod yn agored ar Iran.

Dywedoddd llefarydd ar ran byddin Israel: “Yn seiliedig ar gudd-wybodaeth, fe darodd awyrennau’r IAF gyfleusterau gweithgynhyrchu taflegrau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r taflegrau a daniodd Iran yn erbyn Israel dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Roedd y taflegrau hyn yn fygythiad uniongyrchol ar ddinasyddion Talaith Israel.

“Ar yr un pryd, fe darodd yr IDF dargedau yn Iran fyddai’n cyfyngu ar ryddid Israel i weithredu o’r awyr yn Iran.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr IDF: “Bydd y rhai sy'n bygwth Israel yn talu pris trwm.”

Dywedodd Iran bod yr ymosodiadau o'r awyr wedi targedu canolfannau milwrol yn nhaleithiau Ilam, Khuzestan a Tehran, gan achosi “difrod cyfyngedig”.

Dywedodd byddin Iran yn ddiweddarach bod dau o’i milwyr wedi cael eu lladd yn yr ymosodiadau.

Mewn uwch-gynhadledd y Gymanwlad yn Samoa dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer: “Mae gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun. Rwy’n annog pawb i bwyllo. Ni ddylai Iran ymateb.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.