'Mae'n fwy na phwll': Pryder am bobl anabl yn dilyn cau Pwll Nofio Pontardawe
'Mae'n fwy na phwll': Pryder am bobl anabl yn dilyn cau Pwll Nofio Pontardawe
Pa mor aml oeddech chi'n dod yma?
"O'n i'n dod 'ma bob wythnos."
Mae gan Betsan atgofion o ddod i bwll Pontardawe ond caeodd yn Awst.
Roedd yr adeilad yn dangos ei oed ac er y byddai'r cyngor sir yn hoffi codi pwll newydd dydyn nhw ddim yn siwr o ble daw'r arian.
"Wnes i lefain oherwydd mae'n fwy na phwll.
"Mae'n meddwl shwt gyment i'r gymuned.
"Mae plant yn dysgu nofio yma.
"Fel mam i efeilliaid sydd ag awtistiaeth yr unig le cynhwysol i fynd a'r plant, rhywle'n hollol gartrefol helpu pobl oedd yn cael strokes a neud rehab.
"Fi ffaelu credu bod e 'di caead."
Byddai pwll newydd yn costio £10 miliwn o leia yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae gwasanaethau eraill y mae'n rhaid i gynghorau dalu amdanyn nhw.
Bellach mae arweinyddion Plaid Cymru wedi ysgrifennu at y Canghellor gan rybuddio bod y cynghorau ar ymyl y dibyn o achos prinder arian.
"Dyw'r system ddim yn gweithio.
"Mae gyment o wasanaethau dan bwysau aruthrol a chynnydd yn y galw gyda plant a'r henoed.
"Mae 'na bwysau aruthrol ar ysgolion ar draws Cymru.
"Nifer o ysgolion mewn dyled a methu'n deg a talu ffordd.
"Mae'n hewlydd ni mewn picl ar draws y wlad ac mae'n rhaid gweld newid.
"Mae'n rhaid cael arian i gefnogi'r gwasanaethau 'ma."
Faint o arian dach chi'n meddwl mae'r cynghorau angen?
"Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn amcangyfrif dros £500 miliwn o gostau ychwanegol ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa."
Wrth i Gyngor Gwynedd orwario eleni mae'r prif weithredwr yn awgrymu dod a rhai gwasanaethau i ben neu godi treth y cyngor hyd at 16%.
Mae Llywodraeth Prydain yn addo cydweithio a Llywodraeth Cymru i sicrhau'r cyllid gorau posib i'r cynghorau.
Mae hwn yn faes sydd wedi ei ddatganoli.
Mae Plaid Cymru wedi anfon llythyr at Brif Weinidog Cymru hefyd.
"Ni'n wahanol i Loegr 'di rhoi arian ychwanegol i lywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd dyna pam chi heb weld nhw'n mynd i'r wal.
"Maen nhw dan bwysau aruthrol ac wrth gwrs ni'n dechre trafod ein cyllid ni ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd."
Gallai'r sefyllfa fod rhyw faint cliriach yr wythnos nesaf er rhybudd y Canghellor bod arian yn brin.
Bydd cynghorau Cymru'n gobeithio y daw rhyw faint i'w cyfeiriad nhw.