Newyddion S4C

Apêl wedi lladrad mewn siop yn Llanelli 'gyda dryll ffug'

25/10/2024
Lladrad Kumar Stores

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn siop yn Llanelli.

Dywedodd Heddlu'r De bod swyddogion yn ymchwilio i ladrad a ddigwyddodd yn Kumar Stores, Penyfan am 06.20 ddydd Iau.

"Fe aeth y sawl a ddrwgdybir i mewn i'r siop a mynnu arian o'r til gyda'r hyn oedd yn ymddangos fel dryll," meddai'r heddlu. 
 
"Mae'r eitem bellach wedi'i lleoli a chadarnhawyd ei bod yn ddryll ffug."
 
Ychwanegodd yr heddlu bod y sawl a ddrwgdybir wedi gadael y siop a gwneud eu ffordd tuag at gae chwarae Penyfan.
 
Cafodd dyn ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ond mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymchwiliad.
 
Dylai unrhyw un sy'n byw ger cae chwarae Penyfan, a allai fod â chamera cylch cyfyng, gysylltu gyda'r llu.
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.