'Ni ellid fod wedi rhagweld llofruddiaeth Brianna Ghey,' medd crwner
Mae crwner yng nghwest i farwolaeth Brianna Ghey wedi dod i'r casgliad na ellid fod wedi rhagweld ei llofruddiaeth.
Cafodd y ferch drawsryweddol 16 oed ei thrywanu â chyllell hela 28 o weithiau yn ei phen, ei gwddf, ei brest a’i chefn, a hynny ar ôl iddi gael ei hudo i Barc Linear ym mhentref Culcheth ger Warrington, Sir Gaer ar 11 Chwefror y llynedd.
Cafodd Scarlett Jenkinson ac Eddie Ratcliffe, oedd yn 15 ar y pryd, eu carcharu am oes am ei llofruddio.
Roedd Brianna wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Birchwood, Warrington, lle daeth yn ffrindiau gyda Jenkinson.
Cafodd Jenkinson ei symud yno o Ysgol Uwchradd Culceth wedi iddi roi canabis i ddisgybl iau yn yr ysgol.
O fewn wythnosau roedd Jenkinson wedi datblygu obsesiwn â Brianna, gan ddechrau cynllwynio ei llofruddiaeth gyda Ratcliffe.
Clywodd llys fod Jenkinson wedi wedi mwynhau gwylio fideos o ladd ers iddi fod yn 14 oed.
Ond clywodd cwest i farwolaeth Brianna yn Llys y Crwner Warrington nad oedd ei “ffantasïau tywyll” yn hysbys i’r ysgol nac i unrhyw oedolyn arall.
'Dim rheswm i unrhyw un amau'
Daeth crwner i'r casgliad na ellid fod wedi rhagweld cynllwyn Jenkinson i lofruddio Brianna Ghey.
Dywedodd Jacqueline Devonish, uwch grwner Sir Gaer: “Doedd dim rheswm i unrhyw un amau nad oedd y cyfeillgarwch yn un dilys.
“Roedd Ysgol Uwchradd Birchwood yn cynnig cymorth o safon uchel o fewn amgylchedd gofalgar i Brianna.”
Ychwanegodd Ms Devonish nad oedd unrhyw arwyddion gweladwy bod Jenkinson wedi rhoi Brianna mewn perygl.
“Roedd hi wedi bod yn cynllwynio i lofruddio Brianna ers diwedd 2022. Eddie Ratcliffe oedd yr unig berson oedd yn gwybod heblaw am Scarlett Jenkinson,” meddai.
“Ni allai’r ysgolion fod wedi rhagweld yn rhesymol y byddai Scarlett Jenkinson ac Eddie Ratcliffe wedi cynllwynio a llofruddio Brianna.
“Ni ellid yn rhesymol fod wedi rhagweld, ar y dystiolaeth oedd ar gael ar y pryd, fod Scarlett Jenkinson yn ansefydlog yn feddyliol nes y byddai’n lladd.”
Roedd gan Brianna a Jenkinson hanes o hunan-niweidio a materion personol oedd yn effeithio ar eu haddysg.
Roedd Jenkinson hefyd wedi ymosod ar ddisgybl arall, ac wedi mynd i'r ysgol yn feddw ac yn arogli o ganabis.