Carcharu dyn o Wynedd am stelcian cyn-bartner
Mae dyn o Wynedd wedi ei garcharu ar ôl cyfaddef iddo stelcian cyn-bartner iddo a bygwth datgelu lluniau o natur rywiol o ddynes arall.
Ddydd Gwener, fe gafodd Gruffydd Llŷr Williams, 44 oed, o Efailnewydd ger Pwllheli ddedfryd o 27 mis yn y carchar mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno.
Roedd Williams, oedd wedi gweithio fel syrfëwr meintiau, wedi gyrru e-bost at fos y ddynes, a chyfeirir ati hi fel Dioddefwr A yn y llys, i ddweud nad oedd hi'n yn “foesol ffit” i fod â swydd yn y gweithle.
Roedd hefyd wedi postio lluniau ohoni hi a rhoi sylwadau sarhaus amdani ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chysylltu â phapur newydd rhanbarthol i’w hannog i gyhoeddi stori amdani.
Dywedodd Paulinis Barnes, ar ran yr erlyniad, fod y dioddefwr wedi byw mewn “cyflwr cyson o banig”. Roedd wedi symud tŷ a gosod camerau cylch cyfyng.
Roedd gweithle’r ddynes wedi rhoi ‘larwm trais rhywiol’ iddi hi.
“Rwy’n ofni’r hyn y gall y dyn hwn ei wneud i mi,” dywedodd y fenyw mewn datganiad effaith.
'Cam-drin'
Fe wnaeth Gruffydd Llŷr Williams hefyd gyfaddef iddo stelcian gan frawychu’n ddifriol ar ôl iddo fygwth datgelu lluniau o natur rywiol o ail ddynes.
Cafodd gorchymyn atal 15 mlynedd ei roi gan y barnwr, Nicola Saffman.
Dywedodd y Barnwr Saffman am y stelcian: “Roedd yn weithred barhaus gyda’r bwriad o achosi’r trallod mwyaf. Mae hwn yn achos tebyg i gam-drin domestig.”
Mynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad Richard Edwards nad oedd Williams wedi bod yn “beio’r dioddefwr” mewn adroddiad cyn-dedfrydu.
Roedd wedi gweithio ym maes adeiladu a pheirianneg ac yn fwy diweddar gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dywedodd yr amddiffyniad fod Williams wedi cael ei wawdio oherwydd problem feddygol a bod ganddo feddyliau hunanladdol.