Newyddion S4C

Profion dyslecsia newydd yn rhoi 'cyfiawnder' i siaradwyr Cymraeg

Newyddion S4C 25/10/2024

Profion dyslecsia newydd yn rhoi 'cyfiawnder' i siaradwyr Cymraeg

Mewn stafell fach glyd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen, mae criw o ddisgyblion blwyddyn 7 wedi bod yn treialu profion llythrennedd newydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y pen draw, fe fydd y profion yma yn gallu dweud a oes gan ddisgybl anhawster llythrennedd gan gynnwys dyslecsia.

Mae’r profion cyntaf o’u math yma yn cael eu datblygu diolch i waith ymchwil Marjorie Thomas a Dr Rhiannon Packer o Brifysgol Metropoitan Caerdydd.

Yn ôl Marjorie Thomas, roedd hi’n “bwysig i ni bod y profion hyn yn cael ei datblygu, fel bod cyfiawnder i bobl sydd yn siarad Cymraeg”.

Ar hyn o bryd, os oes rhywun yn meddwl bod ganddyn nhw dyslecsia mae angen gwneud prawf asesu yn Saesneg, ac yn ôl Dr Rhiannon Packer “yn bendant falle bod na blant sydd wedi cael cam”.

“Os y’ ni dim ond yn asesu plentyn trwy un iaith a ma’ nhw’n ddwy ieithog, dy’ nhw ddim yn cael y darlun cyflawn o’r plentyn," meddai.

"Da’ ni’n profi eu gallu yn y Saesneg a ddim yn y Gymraeg”.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg, y gobaith yw sicrhau fod y profion newydd yma ar gael am ddim i bob ysgol uwchradd erbyn cychwyn 2026.

Ond yn ôl Shari Llewelyn sy’n riant i blentyn sydd a dyslecsia, mae angen edrych i weld sut mae sicrhau fod y profion yma, unwaith y byddan nhw’n barod, ar gael i bob unigolyn sydd ei hangen.

“Dwi’n meddwl fod o’n wych bod y prawf yma mynd i fod ar gael mewn ysgolion (uwchradd) am ddim a’r hyfforddiant am ddim, ond da’ ni angen edrych ar sut ma’ unigolion yn medru cyrraedd y profion yna,” meddai.

“Ma’ lot o bobl sydd angen profion dyslecsia, ella di’ gadal addysg, a ma’ dal mynd i gostio nhw hyd at £600 a ma’ dal mynd i fod yn y Saesneg.

“Dwi’n nabod bobl sydd ‘di gorfod benthyg pres oherwydd y gost i gael y prawf dyslecsia, a ma’ hynna yn hollol anghyfiawn."

'Prinder adnoddau'

Wrth ymateb, fe ddwedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er nad oes angen diagnosis i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i ddysgwr pan fo’i angen, mae profion sgrinio dyslecsia a phrofion diagnostig yn cael eu defnyddio gan athrawon weithiau er mwyn nodi beth yw’r cymorth priodol i oresgyn unrhyw beth sy’n rhwystr i unigolyn rhag dysgu. 

"Mae gyda ni fframwaith anawsterau dysgu penodol a chanllawiau ar sgrinio, asesu ac ymyrryd i helpu ymarferwyr i ddeall yn well yr anawsterau y mae dysgwyr â dyslecsia yn eu hwynebu.”

Yn ôl Dr Rhiannon Packer, mae’r profion yma “yn fan cychwyn”.

“Ma rhaid ni gychwyn yn rhywle yn does, a’r gobaith allwn ni helpu plant syn hyn ac yn iau yn y dyfodol," meddai.

Nôl yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, mae’r Pennaeth Cynorthwyol, Rhian Dickenson, yn croesawu’r profion yn fawr.

“Roedden ni wedi penderfynu fod yn rhan o’r treialon oherwydd ma’ gymaint o brinder o adnoddau o ffyrdd o brofi dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

Ychwanegodd: “Yn aml iawn oedd rhieni yn gofyn am gymorth neu plant yn gofyn am gefnogaeth ac oeddech chi’n gwneud eich gorau glas ond heb y sylfaen i allu fesur lle oedden nhw ar y pryd a fel ma’ nhw wedi neud cynnydd”.

Roedd hi’n “teimlo bod en bwysig bod yn rhan o’r treialon yma er mwyn cefnogi y dysgwyr”.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.