Etholiad UDA: ‘Magu plant yma’n gallu bod yn ofnus’
Etholiad UDA: ‘Magu plant yma’n gallu bod yn ofnus’
Mae’r newyddiadurwr Maxine Hughes wedi datgelu fod magu plant yn yr Unol Daleithiau yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni yn gallu codi ofn arni o bryd i’w gilydd.
Roedd Maxine yn siarad mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar sy’n rhoi sylw i’r ras Arlywyddol rhwng y Gweriniaethwr, Donald Trump a’r ymgeisydd Democrataidd Kamala Harris. Mae disgwyl i 150 miliwn o Americanwyr fynd i’r blychau pleidleisio ar 5 Tachwedd.
Mae Maxine yn fam i ddau o blant ac yn byw a gweithio fel gohebydd yn Washington D.C. Er ei bod yn byw bywyd hapus a diogel yn y wlad, mae hi’n bryderus am y posibilrwydd y gallai America ymuno â rhyfeloedd yn y dyfodol.
Perthynas yr UDA ac Israel
“Pan ti’n magu plant yma, mae’n rhoi ofn i ti. Mae Iran yn dechrau’ ffeiro rockets at Israel, a ma’ Israel ‘di ffeiro rockets yn Lebanon, a ti’n meddwl, ‘Hang on. Ma’ America mor agos i Israel, ac yn erbyn Iran.’ Ie, mae’n ‘neud i ti deimlo fel, ‘dwi’m yn siŵr os dw’i eisiau bod yma.”
Mae’r rhyfel rhwng Israel a Hamas, gydag ymosodiadau marwol a di-ben-draw yn Gaza, bellach yn ei ail flwyddyn. Yn ystod mis Hydref fe wnaeth y gwrthdaro ddwysàu i gynnwys ymosodiadau rhwng Israel ac Iran, yn ogystal â’r grŵp milwrol o Libanus, Hezbollah.
Does dim un wlad arall oni bai am yr Unol Daleithiau wedi rhoi cymaint o gymorth milwrol i Israel. Mae Donald Trump wedi galw ei hun yn “amddiffynnydd y wlad”. Mae Kamala Harris wedi gwarchod hawl Israel i amddiffyn ei hun tra hefyd yn galw, yn aflwyddiannus hyd yma, am gadoediad yn Gaza.
“Mae’r berthynas sydd gyda America gyda Israel yn fwy cryf na unrhyw beth fi ‘di gweld mewn unrhyw le arall. Mae’n teimlo fan hyn fel ma’ Israel yn 51st state neu rywbeth,” meddai Maxine.
Trydydd Rhyfel Byd?
Wrth i’r gwrthdaro barhau mae Maxine yn credu y gallai’r Arlywydd nesaf gael dylanwad arwyddocaol iawn ar unrhyw wrthdaro pellach yn y Dwyrain-Canol.
“Mae’n teimlo fel ‘dan ni bron mewn trydydd rhyfel y byd ar hyn o bryd. A mae pwy bynnag sydd yn ennill y goriadau i’r Tŷ Gwyn yn mynd i fod yn allweddol ac yn mynd i, falle, gwneud y penderfyniad os mae’r rhyfel yna’n dechrau neu ddim.
“Mae gan plant fi passports Americanaidd so ma’n ‘neud ti feddwl, be sy’n mynd i ddigwydd? Dwi’n lwcus bod fy ngwraig i’n dod o Awstralia so os oes 'na rywbeth yn digwydd fedrwn ni fynd i fano yn bell iawn o hyn i gyd.”
I glywed mwy o ddadansoddi am yr Etholiad Arlywyddol gan Maxine Hughes, gwyliwch rhaglen Y Byd ar Bedwar nos Lun ar 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.