Newyddion S4C

Merched ysgol wedi rhedeg ar ôl pedoffeil a rhannu llun ohono ar Snapchat

25/10/2024
Gareth Ashton

Roedd merched ysgol wedi rhedeg ar ôl pedoffeil a rhannu llun ohono ar Snapchat, clywodd llys wrth iddo gael ei garcharu ddydd Gwener.

Cafodd Gareth Ashton, 39 oed, ei garcharu am bedair blynedd a 10 mis ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i 1,258 o luniau a fideos anweddus o blant ar 19 dyfais yn ei gartref.

Plediodd yn euog i greu delweddau anweddus, tynnu lluniau i fyny sgertiau, a thorri amodau gorchymyn atal niwed rhywiol.

Dywedodd yr erlynydd Josh Gorst yn Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi ffilmio merch chwech i wyth oed wrth iddi ymolchi mewn cawod ar bromenâd Prestatyn.

Roedd y diffynnydd o Stryd Fictoria, Prestatyn hefyd wedi tynnu llun o blentyn 13 oed ar ôl dilyn merched ysgol ym Mhrestatyn.

Cafodd ei wahardd gan y barnwr Nicola Saffman rhag tynnu lluniau o blant fel rhan o orchymyn penagored yn er mwyn atal niwed rhywiol.

“Mae’r drosedd yn amlwg wedi ei gwaethygu gan yr elfen o gynllunio a chofnodi’r ddelwedd, ac oedran y dioddefwr, oedd ddim ond 13 oed,” meddai.

 “Roedd yna, o fewn eich hanes chwilio, dermau chwilio a oedd yn dangos yn glir eich bod yn cynllunio’r ffordd orau o dynnu lluniau anghyfreithlon a chudd o blant.”

Dywedodd Ember Wong, ar ran yr amddiffyn, fod gan Ashton awtistiaeth a'i fod wedi'i gadw yn y ddalfa ers mis Ebrill. 

“Mae wedi cael amser hynod anodd yn y ddalfa i ffwrdd oddi wrth ei deulu,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.