Lluniau newydd o fenyw o Bontypridd sydd ar goll

ITV Cymru 25/10/2024
Joanne Jones

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau newydd o fenyw o Bontypridd sydd wedi bod ar goll am bedwar diwrnod.

Cafodd Joanne Jones, 49 oed, ei gweld ddiwethaf tua 9.45 ddydd Llun, 21 Hydref, yng Ngerddi’r Fro ym Mhontypridd, ond does neb wedi clywed ganddi ers hynny.

Y gred yw ei bod hi wedi anelu am Heol Graigwen yng nghyfeiriad Coedwig Llanwynno.

Image
Joanne Jones
Y lluniau newydd a gafodd eu rhyddhau ddydd Gwener. Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Mae lluniau newydd o gamerau cylch cyfyng yn ei dangos yn gwisgo cot werdd dywyll, bag du, legins, ac esgidiau cerdded.

Mae swyddogion sydd â hyfforddiant chwilio ac offer arbenigol wedi dechrau chwilio, gan gynnwys edrych yn yr ardaloedd coedwig yn agos i le cafodd hi ei gweld ddiwethaf.

Fel rhan o’r chwilio, mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi cael ei ddefnyddio, yn ogystal â gwirfoddolwyr a cŵn chwilio.

Yn ôl Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Matt Rowlands: “Rydyn ni’n cadw meddwl agored am beth ddigwyddodd i Joanne ac yn parhau i wneud ymholiadau eang.

"Rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhywun sydd â deunydd fideo dash-cam neu flaen y drws yn ardaloedd Graigwen, Llanwynno, Perthcelyn, ac Ynysybwl o 9.30 fore Llun hyd heddiw.

"Rwy’n deall pa mor bryderus yw’r sefyllfa hon i deulu a ffrindiau Joanne, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaol gan y gymuned leol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.