Newyddion S4C

Arddangosfa newydd yn cofnodi hanes streic y glöwyr

ITV Cymru 26/10/2024

Arddangosfa newydd yn cofnodi hanes streic y glöwyr

“Mae lot mwy o stori yn ne Cymru, lot mwy,” meddai Ceri Thompson, cyn-löwr, a churadur sy’n arbenigo mewn hanes y diwydiant glo. 

Fel arfer, mae Ceri yn gweithio yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, ond yn ddiweddar mae wedi bod yng Nghaerdydd yn paratoi arddangosfa ‘Streic! 84-85’ fydd yn agor y penwythnos hwn yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

I nodi 40 mlynedd ers y streiciau, bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar y gwrthdaro rhwng Llywodraeth Margaret Thatcher a’r cymunedau glofaol.

Y gobaith yw bydd lluniau, baneri, a straeon personol yn cynnig mewnwelediad newydd i gyfnod y streiciau.

“Mae’n wahanol i’r rhaglenni dogfen sydd jyst yn sôn am Orgreave a’r heddlu yn erbyn pickets,” meddai Ceri, sydd wedi defnyddio’i brofiad i hun i guradu’r arddangosfa.

Dywedodd Ceri Thompson ei fod yn teimlo bod darluniau o'r hanes wedi tueddu i ganolbwyntio ar ogledd Lloegr ac nad oedd pobol yn clywed llawer am Gymru.

"Fel arfer, ar y teledu a'r ffilmiau, picket yn siarad gydag acen Yorkshire yn 'de, i ddechrau," meddai.

"'Sdim lot o sôn am Gymru. Ac roedd Cymru yn fwy solid ym Mhrydain."

Mae ‘Streic! 84-85’ yn agor ddydd Sadwrn 26 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.