Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddynes ddioddef anafiadau difrifol
Mae dyn 33 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddynes gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd yn peryglu ei bywyd.
Cafodd swyddogion heddlu'r gogledd eu galw i dŷ ar Ffordd Cefndy yn Y Rhyl am 22:30 nos Iau.
Dywedodd y llu bod dynes 69 oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd yn peryglu ei bywyd.
Cafodd dyn ei arestio ym Mae Cinmel yng Nghonwy ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Roedd menyw 25 oed hefyd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae'r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru Nick Evans nid yw'r llu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad gyda'r digwyddiad.
"Hoffwn bwysleisio nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad gyda'r ymchwiliad, sydd yn y camau cynnar," meddai.
"Bydd mwy o swyddogion yn yr ardal dros y dyddiau nesaf ond nid oes bygythiad i'r gymuned leol."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth cysylltu gyda'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod Q161073.