Angen 'chwalu'r stigma' am fabwysiadu plant ag anghenion dysgu
Angen 'chwalu'r stigma' am fabwysiadu plant ag anghenion dysgu
“Does ‘na ddim mwy o waith - mae’n waith gwahanol.”
Dyma eiriau rhiant o Bontypridd sydd yn benderfynol o fynd i’r afael â’r stigma o amgylch mabwysiadu plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Fe wnaeth Hedd Morgan a’i wraig Jessica fabwysiadu efeilliaid dwy oed yn 2015.
Bellach yn 11 oed, mae’r brodyr yn byw ag ADHD ac awtistiaeth.
A hithau’n Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol, mae’r rhieni eisiau annog pobl eraill i beidio ag ystyried anghenion gwahanol yn “rhwystr” a fyddai’n eu hatal nhw rhag mabwysiadu.
“Does ‘na ddim shwd peth a plant gyda problemau,” meddai Hedd wrth siarad â Newyddion S4C.
“Mae bob un yn unigol ond mae rhaid i chi feddwl trwy beth sy’n unigol i’r plant ‘na un ar y tro.”
'Cariad'
Mae’r efeilliaid bellach yn frodyr hŷn i ddau o blant eraill wyth a chwech oed.
Roedd Jessica wedi beichiogi ychydig o fisoedd yn unig ar ôl mabwysiadu’r efeilliaid, a hynny yn “syrpreis mawr,” meddai.
Mae’r holl blant gydag amrywiaeth o anghenion gwahanol – ac mae hynny’n rhywbeth i'w ddathlu, esboniodd y rhieni.
“Beth mae pobl byth yn meddwl amdano yw, mae plentyn ni sydd ag anghenion dwys, mae cariad fe’n dangos i ni yn lot fwy na’r tri arall,” meddai Hedd.
“’Na gyd mae fe moyn ‘neud yw rhoi cwtsh i bawb, s’dim byd hunanol ynddo fe, s’dim byd gas ynddo fe.
“Os oedd pawb yn y byd yn awtistig bydd dim rhyfela, dim byd cas yn y byd – bydd e’n mad, ond bydd pawb yn hapus.”
Stigma
Mae dros 200 o blant yn disgwyl i gael eu mabwysiadu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ac fe allai brodyr a chwiorydd, plant sy’n byw ag anghenion ychwanegol, neu blant hŷn wynebu cyfnod hirach yn y system ofal o gymharu ag eraill.
Ar gyfartaledd, mae grwpiau o frodyr a chwiorydd yn disgwyl 135 ddiwrnod ychwanegol i gael eu mabwysiadu na phlant sydd ar eu pennau eu hunain, esboniodd cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS).
“O ran grwpiau o frodydd a chwiorydd yn benodol, mae’n gallu cymryd yn hirach i ddod o hyd i deuluoedd oherwydd efallai nad yw rhai teuluoedd wedi ystyried mabwysiadu neu ofalu am fwy nag un plentyn yn sgil pryderon am fforddiadwyedd neu ddigon o ofod yn y tŷ," meddai Suzanne Griffiths.
“Dyna pam bod ein gwaith i godi ymwybyddiaeth o ran pwy all fabwysiadu, yn ogystal â herio camsyniadau hen ffasiwn, yn mor bwysig."
Mae Jessica a Hedd Morgan hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd bod yn “agored” i fabwysiadu unrhyw blentyn, medden nhw.
“Ni’n gwybod o brofiad bod ‘na stigma mowr," meddai Hedd.
“Mae plant gyda’r enw ‘anghenion arbennig’ wedi torri, maen nhw mynd i difrodi eich tŷ chi ac maen nhw hollol allan o control – ond mae nhw ddim o gwbl."