Y Seintiau Newydd yn creu hanes yn erbyn Astana

25/10/2024
tns
Roedd hi'n noson hanesyddol i glwb y Seintiau Newydd nos Iau, gan mai eu buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Astana oedd y fuddugoliaeth gyntaf i unrhyw glwb o Gymru yn safle grwpiau cystadleuaeth Cyngres UEFA erioed.
 
Rory Holden sgoriodd y gôl gyntaf, cyn i Declan McManus rwydo'r ail o gic o'r smotyn.
 
Roedd torf o dros 2,000 wedi dod i wylio ar y noson yn stadiwm Croud Meadow yng Nghroesoswallt, sef cartref dros dro y Seintiau tra'n cystadlu yn Ewrop.
 
Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd Craig Harrison, rheolwr y Seintiau, ei fod yn credu fod ei glwb yn haeddu'r fuddugoliaeth yn erbyn yr ymwelwyr ar y noson.
 
"Yn gyffredinol rwy'n credu ein bod wedi ei haeddu. Fe gawsom ni ddechrau araf - am y 30 munud cyntaf roedden nhw ar y brig a ni wnaethon ni lwyddo i gael y siâp yr oeddem yn drio ei wneud, cyn i ni symud Rory i'r canol.
 
"Fe ddaeth y gôl ar amser da. Ers yr amser pan wnaethon ni sgorio'r gôl yna dwi ddim yn credu ein bod yn edrych fel ein bod heb reolaeth o'r gêm."
 
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn ddigwyddiad gwych a bod cymaint o bobl tu ôl i'r llen yn y clwb yr oedd am ddiolch iddynt am eu gwaith caled.
 
Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth mewn cyfweliad gyda Sgorio ar ddiwedd y gêm, dywedodd chwaraewr TNS, Leo Smith fod y perfformiad wedi bod yn un cadarn gan y garfan.
 
"Oedd yr hogia i gyd yn wych, dwi mor falch," meddai.
 
"Mae rhan fwyaf o bobl tu allan i bêl-droed neu tu allan i'r clwb yma yn sbio arna ni a dweud ella sa ni ddim yn cael pwynt ond y gêm Fiorentina na, doedda ni ddim yn disgwyl dim byd yn fan yna, ond oedd o'n berfformiad da - wnaethon ni'n wych i gadw fo'n 2-0. 
 
"A heno ella bod pobl yn meddwl sa ni wedi colli'r gêm ond os da ni'n gneud gameplan ni a aros yn y gêm da ni hefo chance a nath y cyfleoedd ddisgyn yn well i ni na nhw."
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.