Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Y Drenewydd yn teithio i'r brifddinas i wynebu Met Caerdydd

Sgorio 25/10/2024
Met Caerdydd

Fe fydd Y Drenewydd yn teithio i'r brifddinas i herio Met Caerdydd yn unig gêm yn y Cymru Premier JD nos Wener.

Fe wnaeth y myfyrwyr guro Penybont yng Nghwpan Cymru penwythnos diwethaf, tra bod y Robiniaid wedi colli i Lanuwchllyn o'r drydedd haen ar giciau o'r smotyn.

Mae’n dynn iawn yng nghanol y tabl, a byddai buddugoliaeth i’r Drenewydd yn eu codi’n gyfartal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd.

Wedi dechrau da i’r tymor mae’r canlyniadau wedi dirywio i'r Met yn ddiweddar, ac mae’r clwb bellach ar rediad o bedair gêm gynghrair heb ennill.

Dyw’r Drenewydd heb fod ar eu gorau chwaith gan ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf gan ildio 14 o goliau yn eu tair gêm gartref ddiwethaf.

Aberystwyth (30) yw’r unig dîm i ildio mwy o goliau na’r Drenewydd (28) yn y gynghrair y tymor hwn, ond yn ffodus i’r Robiniaid mae eu chwaraewyr ymosodol wedi bod yn tanio.

Does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau na Zeli Ismail (12) yn y gynghrair y tymor hwn gyda’r asgellwr wedi creu 11 a sgorio un mewn 11 ymddangosiad hyd yma.

Mae Ismail wedi chwarae rhan allweddol yn 63% o goliau’r Drenewydd y tymor hwn, tra bod Aaron Williams (6 gôl), Jason Oswell (4 gôl) a Josh Lock (3 gôl) wedi elwa o waith creadigol Ismail, gan roi’r bêl yng nghefn y rhwyd.

Ryan Reynolds (4 gôl) yw prif sgoriwr Met Caerdydd, ond ar ôl dechrau campus i’r tymor dyw’r chwaraewr canol cae heb sgorio ers rhwydo gôl gysur yn erbyn Y Drenewydd dros fis yn ôl.

Mae’r Drenewydd wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd yn cynnwys y fuddugoliaeth o 2-1 ar Barc Latham ym mis Medi.

Mae Met Caerdydd wedi bod yn brysur yn cystadlu yn y cwpanau dros yr wythnos diwethaf, yn curo Pen-y-bont yng Nghwpan Cymru nos Wener, cyn colli yn erbyn Caerdydd yng Nghwpan Nathaniel MG nos Lun.

Ac roedd yna embaras i’r Drenewydd ddydd Sadwrn diwethaf wrth iddyn nhw golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Llanuwchllyn o’r drydedd haen yn ail rownd Cwpan Cymru.

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ͏✅❌❌❌➖

Y Drenewydd: ͏➖❌❌✅❌

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.