
Marathon Eryri: Codi arian at elusen wnaeth 'achub bywyd fy mam'
Bydd menyw o Faesteg ymhlith miloedd o bobl a fydd yn cymryd rhan ym Marathon Eryri ddydd Sadwrn – a hynny er mwyn codi arian at elusen a wnaeth achub bywyd ei mam.
Mae mam Amanda Lewis, Sian Jones, yn byw â chyflwr epilepsi ac y llynedd fe wnaeth hi ddioddef cyfres o ffitiau difrifol.
Bu'n rhaid ei rhoi mewn coma am nad oedd sicrwydd y byddai’n goroesi’r trawiadau, meddai ei merch Amanda Lewis wrth siarad â Newyddion S4C.
“Ges i alwad ffôn gan dad oedd yn meddwl bod mam yn cael strôc,” meddai.
“Daeth yr ambiwlans yn sydyn oherwydd hynny. Roeddwn nhw’n gallu gweld bod mam yn cael ffitiau oedd yn mynd a dod yn sydyn.
“Roedd ei chalon wedi stopio ddwywaith ac roedd rhaid iddyn nhw ddod a hi yn ôl.
“‘Nathon nhw sylweddoli nad oeddwn nhw’n gallu atal y ffitiau… felly roedd rhaid cysylltu â’r ambiwlans awyr er mwyn gosod mam mewn coma i setlo’i hymennydd a rheoli’r ffitiau.”

'Diolch'
Mae Amanda Lewis bellach yn diolch i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru am achub bywyd ei mam – a hithau wedi penderfynu rhedeg Marathon Eryri er mwyn codi arian tuag at yr elusen.
“Heb os, hebddyn nhw fyddai mam ddim yma heddiw,” meddai.
“O ran pa mor gyflym ‘nathon nhw lwyddo i gludo hi i’r Heath [Ysbyty Athrofaol Cymru], a’r sgil o roi hi mewn coma yn y tŷ.
“Oedd hwnna yn her go iawn ond o’n nhw’n anhygoel.”
Fe dreuliodd mam Ms Lewis fisoedd yn yr ysbyty wedi’r digwyddiad ond mae bellach wedi “gwella gymaint".
“Doeddwn ni ddim yn siŵr a fyddai hi’n deffro neu pa fath o niwed oedd i’w hymennydd," meddai Amanda Lewis.
“Gath ei symud i Ysbyty Tywysoges Cymru ond oedd hi’n sâl iawn am amser hir, oedd hi yn yr ysbyty am fisoedd."
Fe gafodd Sian Jones ei rhyddhau o’r ysbyty er mwyn ddychwelyd adref adeg yr hydref y llynedd.
A hithau yn 69 oed adeg ei salwch, fe wnaeth hi ddathlu ei phen-blwydd yn 70 mis Ebrill – a hynny yn “garreg filltir,” meddai ei merch.
Codi ymwybyddiaeth
Mae Amanda Lewis bellach yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am waith gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
“Dwi ddim yn meddwl bod lot o bobl yn sylweddoli eu bod nhw’n elusen," meddai.
Dywedodd Hannah Bartlett o’r elusen eu bod nhw'n “hollol ddibynnol” ar roddion pobl er mwyn cynnal eu gwasanaethau.

Mae’n rhaid iddyn nhw godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn “cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ar y ffordd,” meddai Ms Bartlett.
“Diolch i roddion y cyhoedd, roedd y criw yn gallu bod yn bresennol er mwyn helpu mam Amanda.”
Dywedodd ar ran yr elusen eu bod nhw’n ddiolchgar am unigolion fel Amanda sydd yn penderfynu ymgymryd â heriau o’r fath er mwyn codi arian.
“Yn dilyn cyfnod mor anodd iddi, mae’n anhygoel bod Amanda wedi dewis ymgymryd â’r her epig hon er budd ein helusen gan sicrhau y gallwn ni helpu pobl eraill yn y dyfodol," meddai.
Fe fydd uchafbwyntiau Marathon Eryri yn cael eu dangos ar S4C am 20.00 ar nos Sul.