Newyddion S4C

I gopa Pen y Fan mewn cadair olwyn er cof am ffrind fu'n gymorth

25/10/2024
Simon Green a Helen Fincham

Bydd menyw 29 oed yn dringo Pen y Fan yn ei chadair olwyn i gofio am y dyn wnaeth ei "helpu i dderbyn" ei anabledd pan gafodd ei pharlysu.

Wyth mlynedd yn ôl ceisiodd Helen Fincham godi o'i gwely ond doedd hi methu symud ei choesau na'i breichiau.

Cysylltodd gyda'i rhieni oedd wedi ffonio am ambiwlans ac fe gafodd Helen ei chludo i'r ysbyty ar gyfer profion.

Roedd Helen wedi ei pharlysu o'i brest lawr i'w thraed, ac roedd y fath newid byd yn anodd iddi ei dderbyn.

"Roedd fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ar y dechrau doeddwn i ddim eisiau siarad gydag unrhyw un, oeddwn i'n meddwl bod fy mywyd ar ben. Doeddwn i ddim eisiau byw fel hyn.

"Pan oeddwn i adref doedd dim cefnogaeth, arhosais yn y tŷ a doeddwn i ddim yn edrych ar ôl fy hun nag eisiau i unrhyw un fy ngweld i mewn cadair olwyn."

Image
Helen Fincham
Fe wnaeth Helen Fincham dreulio blwyddyn yn yr ysbyty. Llun: Helen Fincham

Wedi iddi gyrraedd adref a dechrau adeiladu cryfder yn ei breichiau, cafodd neges gan ddyn o'r enw Simon Green.

Roedd yn rhedeg grŵp Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr (Bridgend Coalition of Disabled People) ac wedi codi miloedd i elusennau trwy ymgymryd â heriau fel marathons.

Fe gafodd effaith enfawr ar fywyd Helen gan roi cymorth iddi dderbyn ei bod hi wedi ei pharlysu.

"Anfonodd Simon neges i fi ar Facebook yn gofyn a oedd yn gallu helpu gydag unrhyw beth, roedd yn berson fel 'na, eisiau helpu pawb oedd e'n gallu," meddai.

"Rhywsut roedd e wedi fy mherswadio i ymuno â'r grŵp ac roeddem wedi dod yn dipyn o ffrindiau.

"Roedd yn gymorth i mi fynd allan yn gyhoeddus yn fy nghadair olwyn, helpu addasu i fy mywyd newydd a gyda phethau fel taliadau anabledd.

"Fe wnaeth fy helpu yn emosiynol, yn gorfforol ac yn ariannol ac roeddem yn ffrindiau gorau."

Image
Helen a Simon
Helen a Simon. Llun: Helen Fincham. 

'Lle tywyll'

Cafodd Simon Green ddiagnosis o ganser yr ymennydd yn 2018 ac wedi iddo feddwl ei fod wedi gwella fe gafodd ail ddiagnosis yn 2022 nad oedd modd ei drîn.

Bu farw ar 14 Mawrth 2022 ac roedd ei farwolaeth yn anodd iawn i Helen ei dderbyn.

"Roedd yn derbyn gofal diwedd bywyd ond doeddwn i ddim yn derbyn hynny, roeddwn i'n meddwl y byddai'n gwella ac yn cwblhau marathons eto," meddai.

"Ond pan fu farw... roedd hwnna wedi bwrw fi'n galed. Roeddwn i mewn lle tywyll ac roedd fy iechyd wedi dirywio i'r pwynt lle nad oeddwn i'n gadael y gwely."

Image
Simon Green
Simon gydag un o nifer o'i fedalau enillodd wrth gwblhau marathons. Llun: Helen Fincham

Fis Mawrth nesaf, ddwy flynedd ers marwolaeth Simon, mae Helen eisiau cyflawni her nad ydy hi wedi ei gwneud o'r blaen.

Fe fydd hi'n ceisio dringo Pen y Fan, mynydd uchaf de Cymru.

"Roeddwn i eisiau cyflawni rhywbeth sydd yn debyg i'r holl marathons oedd Simon yn rhedeg, rhywbeth i gofio amdano," meddai.

"Dwi eisiau rhoi fy hun yn ei esgidiau ef a chreu atgof da yn y mis pan fu farw a hefyd codi arian i elusennau sydd yn helpu pobl.

"Fe allai'r elusennau helpu pobl fel y mae ef wedi fy helpu i."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.