Cynghorau 'ar y dibyn' yn ôl arweinwyr awdurdodau lleol Plaid Cymru

Cynghorau 'ar y dibyn' yn ôl arweinwyr awdurdodau lleol Plaid Cymru
Mae arweinwyr cynghorau sydd dan reolaeth Plaid Cymru wedi ysgrifennu at y Canghellor gan ddweud bod cynghorau lleol "ar ymyl y dibyn" a bod angen mwy o arian yn y gyllideb yr wythnos nesa.
Maen nhw hefyd wedi anfon y llythyr at Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ac mae hithau'n cydnabod bod y cynghorau "dan bwysau aruthrol."
Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau'r cyllid gorau posib i gynghorau Cymru gan ychwanegu bod hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli.
"Mae cymaint o wasanaethau dan bwysau aruthrol," meddai arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price.
"Mae na gynnydd yn y galw am wasanaethau cymdeithasol, plant a'r henoed, mae na bwysau aruthrol ar ysgolion ar draws Cymru, nifer o ysgolion mewn dyled nawr yn methu a thalu ffordd, mae'n hewlydd ni mewn picil ar draws y wlad."
'£500m o gostau ychwanegol'
O ran faint o arian sydd ei angen, ychwanegodd fod "Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfri bod dros £500m o gostau ychwanegol ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa."
Mae Bryan Davies, arweinydd Cyngor Ceredigion, a Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Môn hefyd wedi bwrw eu henwau arno yn ogystal â Mr Price, felly hefyd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd ac Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot.
Heb "fargen deg" o'r gyllideb mae'r arweinwyr yn dweud y bydd "llawer o gynghorau'n disgyn oddi ar ymyl y clogwyn."
Er mai cynghorau lleol sydd wedi tueddu i ofalu am ganolfannau hamdden a phyllau nofio, mae'r arian ar gyfer y pethau hynny i'w weld yn fwyfwy prin.
Pwll nofio
Ym mis Awst fe gaeodd pwll nofio Pontardawe, yn bennaf oherwydd cyflwr gwael yr adeilad, ond mae Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot yn dweud y byddai codi pwll newydd yn costio £10-12 miliwn o bunnau, ac yn cydnabod nad ydyn nhw'n gwybod ar hyn o bryd o ble y byddai'r arian yn dod ar gyfer hynny.
Mae Betsan Gower Gallagher yn gweld colli'r pwll yn fawr.
"Wnes i lefen rili oherwydd mae'n fwy na jyst pwll ac mae'n meddwl shwt gymaint i'r gymuned oherwydd mae plant yn dysgu nofio yma.
"I mi fel mam i efeilliaid sydd ag awtistiaeth, yr unig le cynhwysol allwn i fynd a'r plant rhywle o'n i'n teimlo'n hollol gartrefol... fi ffaelu credu bod e di ceued."
Fe ddywedodd Llywodraeth Prydain fod cyllid cynghorau yn rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae na addewid i gydweithio i sicrhau'r cyllid gorau posib i awdurdodau lleol.
Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru'n cael £18bn yn flynyddol gan Lywodraeth Prydain, a bod hynny'n cyfateb i 20% y pen yn fwy na'r gwariant yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.
"Y 'ni yn wahanol i Loegr wedi rhoi arian ychwanegol i Lywodraeth leol yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd a dyna pam dach chi ddim wedi gweld Llywodraeth leol yn mynd i'r wal yma yng Nghymru," meddai'r Prif Weinidog Eluned Morgan.
"Mae'n rhaid i ni gadw golwg arno, maen nhw dan bwysau aruthrol ac wrth gwrs y ni jyst yn dechrau trafodaethau ar beth fydd ein cyllid ni yn edrych fel ar gyfer y flwyddyn nesa hefyd."
Fe fydd disgwyl eiddgar am gyllideb y Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher nesa - er ei bod hithau eisoes wedi rhybuddio bod arian yn brin.