Arestio dynes 60 oed ar amheuaeth o ddynladdiad ar ôl marwolaethau mewn cartref gofal
Mae dynes 60 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar ôl i dri o bobl farw mewn cartref gofal yn Swanage yn sir Dorset.
Fe gafodd y ddynes ei rhyddhau yn ddiweddarach ddydd Iau tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.
Cafodd y ddynes 60 oed ei holi gan dditectifs ar ôl i ddau ddyn - 74 a 91 oed - a dynes 86 oed gael eu darganfod yn farw yng nghartref gofal Gainsborough yn Swanage fore Mercher.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i weld a oedden nhw wedi marw o wenwyn carbon monocsid.
Dywedodd Heddlu Dorset eu bod wedi derbyn adroddiad ddydd Mercher ynglŷn â thri o bobl oedd yn byw yno a gafodd eu darganfod yn farw yn y cartref gofal.
Cafodd saith o bobl eu cludo i'r ysbyty a chafodd preswylwyr eraill eu symud i leoliad arall.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mercher bod y marwolaethau “ar hyn o bryd yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy”, gan ychwanegu bod ditectifs wedi cadarnhau mai “gwenwyno carbon monocsid posib yw’r prif drywydd ymholi”.
Dywedodd cwmni dosbarthu nwy SGN – sy’n berchen ar ac yn gweithredu'r pibellau o dan y ddaear a hyd at y mesurydd nwy - eu bod wedi eu gwirio ac nad oedd unrhyw nwy wedi gollwng ar eu rhwydwaith nhw.
Dywedodd Heddlu Dorset ddydd Iau fod dynes leol 60 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad nos Fercher a’i bod yn parhau yn y ddalfa.
Cymuned glos
Mae Cartref Gofal Gainsborough yn cael ei redeg gan Agincare ac roedd wedi bod yn gofalu am 48 o breswylwyr, pob un yn oedrannus a rhai â dementia.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil Third, o Heddlu Dorset: “Fel rhan o’n hymchwiliad, rydym wedi gwneud un arestiad i’n galluogi i sefydlu a fu gweithredoedd neu esgeulustod a chasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwn am yr hyn sydd wedi digwydd.
“Mae’r marwolaethau’n cael eu trin fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd, ac rydym yn parhau i gysylltu â’n hasiantaethau partner i sefydlu amgylchiadau llawn yr hyn sydd wedi digwydd.
“Yn dilyn ymholiadau cynharach, gallaf gadarnhau mai gwenwyn carbon monocsid posibl yw ein prif drywydd ymholi, ond hoffwn bwysleisio nad oes dim i ddangos bod unrhyw risg i’r cyhoedd yn gyffredinol ar hyn o bryd.
“Mae Swanage yn gymuned glos iawn a gwn y bydd y marwolaethau trist iawn hyn yn cael effaith sylweddol ar bawb yma.”