Newyddion S4C

Heddlu yn ailagor ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol mewn ysgol yn Llundain

24/10/2024
Nuria Sajjad a Selena Lau

Mae Heddlu’r Met wedi ailagor ymchwiliad i wrthdrawiad car mewn ysgol yn Wimbledon a laddodd dwy ferch wyth oed.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi lansio adolygiad mewnol ar ôl i “bryderon” gael eu codi gan deuluoedd Nuria Sajjad a Selena Lau, a fu farw ar ôl y digwyddiad yn ysgol Study Prep yn Wimbledon, de-orllewin Llundain, ar 6 Orffennaf y llynedd.

Roedd y teuluoedd wedi dweud "nad oedden nhw wedi eu hargyhoeddi" bod yr ymchwiliad wedi’i gynnal yn drylwyr ar ôl cyhoeddiad ym mis Mehefin bod gyrrwr y 4×4 wedi dioddef trawiad epileptig y tu ôl i’r llyw ac na fyddai’n wynebu cyhuddiadau troseddol.

Mae teuluoedd y merched wedi croesawu’r cyhoeddiad am ymchwiliad newydd, gyda mam Selena yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd yn dod â’r “hunllef barhaus hon” i ben.

Mewn datganiad dywedodd y Met: “Mae’r adolygiad wedi nodi nifer o drywyddau ymholi y mae angen eu harchwilio ymhellach ac, o’r herwydd, bydd yr ymchwiliad nawr yn cael ei ailagor.

“Mae’r teuluoedd wedi cael y newyddion diweddaraf am y datblygiad yma a byddwn yn parhau i gwrdd â nhw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad wrth iddo fynd rhagddo.

“Rydyn ni’n gwybod bod hwn wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn iddyn nhw.

“Rydym yn credu y bydd y gwaith ymchwiliol pellach hwn yn mynd i’r afael â’r holl gwestiynau a godwyd gan y teuluoedd.

“Bydd yr ymchwiliad pellach hwn yn cael ei gynnal gan uwch swyddog ymchwilio achrededig a thîm sydd â phrofiad mewn ymchwiliadau i laddiadau.”

Roedd yr ysgol wedi bod yn dathlu diwrnod olaf tymor yr haf pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd sawl person arall eu hanafu pan darodd y 4×4 trwy ffens a tharo adeilad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.