Newyddion S4C

Rhybudd i yrwyr gymryd gofal ar ôl i elusen orfod mabwysiadu dyfrgi ar Ynys Môn

Menai

Mae elusen wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn wyliadwrus am ddyfrgwn ar ôl gorfod mabwysiadu un o’r creaduriaid ar Ynys Môn.

Dywedodd yr elusen eu bod nhw wedi dod o hyd i Menai y dyfrgi mewn cyflwr “gwan a sychedig” tua chwe diwrnod ar ôl i’w fam farw mewn gwrthdrawiad â char.

Chwe diwrnod yn ddiweddarach fe ddaethon nhw o hyd i chwaer Menai ond bu’n rhaid ei rhoi i gysgu am ei bod yn rhy wan i oroesi.

Mae elusen UK Wild Otter Trust wedi lansio ymgyrch ‘Arafwch ar gyfer y Dyfrgwn’ er mwyn annog gyrwyr i fod yn wyliadwrus.

Dywedodd sylfaenydd yr elusen Dave Webb bod Menai bellach yn ffynnu gan bwyso 1.35kg.

“Mae dyfrgwn ifanc yn dibynnu'n llwyr ar ofal eu mam, felly mae'r ffaith iddo oroesi cyhyd hebddi yn eitha' gwyrthiol mewn gwirionedd,” meddai.

“Mae’r diolch i’r aelod o’r cyhoedd a roddodd wybod i ni am Menai. Mae’n ffynnu heddiw o dan ein gofal, a bydd yn cael ei ryddhau yn ôl i’r gwyllt ymhen rhyw flwyddyn pan fydd yn ddigon hen i oroesi ar ei ben ei hun. 

“Mae’n ddigalon iawn na wnaethon ni ddod o hyd i chwaer Menai mewn pryd i'w hachub hi hefyd."

Ynghyd â llifogydd a llygredd, gwrthdrawiadau â cherbydau yw un o’r prif fygythiadau i ddyfrgwn yn y DU, meddai.

Dywedodd Dave Webb bod cyflymder mor isel ag 20mya dal yn ddigon cyflym i ladd dyfrgi.

Nod yr ymgyrch oedd annog pobol i ofalu yn enwedig o amgylch afonydd lle mae dyfrgwn yn byw, meddai.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.