Ofcom yn lansio ymchwiliad i ddelweddau AI ar blatfform X

Llun: PA
Grok / AI X

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i blatfform X ar ôl i declyn AI yr ap gael ei ddefnyddio i greu delweddau hanner noeth o ddieithriaid, gan gynnwys plant.

Mewn datganiad, dywedodd Ofcom eu bod yn cynnal yr ymchwiliad i benderfynu os oedd cwmni Elon Musk "wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau i amddiffyn pobl yn y DU rhag cynnwys sy'n anghyfreithlon”.

Daw hyn wedi i'r rheoleiddiwr gysylltu gydag X ar 5 Ionawr i ofyn pa gamau maen nhw'n ei gymryd i ddiogelu defnyddwyr yn y DU, gan osod "dyddiad cau pendant" o 9 Ionawr i'r cwmni ymateb.

Ni wnaeth X ymateb o fewn y terfyn amser meddai Ofcom.

'Hynod bryderus'

Dywedodd Ofcom eu bod wedi penderfynu cynnal yr ymchwiliad fel "mater brys" ar ôl adolygu nifer fawr o luniau.

"Mae adroddiadau hynod bryderus bod teclyn AI Grok ar X yn cael ei ddefnyddio i greu a rhannu lluniau hanner noeth o bobl.

"Fe allai hyn fod yn gyfystyr â cham-drin delweddau personol neu bornograffi – a delweddau rhyw o blant a all fod yn gyfystyr â deunydd cam-drin rhyw plant.”

Mae cyfrwng X bellach wedi cyfyngu mynediad at y gallu i orchymyn Grok i greu delweddau o’r fath i ddefnyddwyr sy’n talu am wasanaeth ‘premiwm’ X yn unig.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer fod hynny yn ei wneud yn “sarhad” ar ddioddefwyr camdriniaeth ac “nad yw’n ateb y broblem”.

“Yr hyn y mae’n ei brofi yw y gall X symud yn gyflym pan fydd am wneud hynny,” meddai.

“Fe glywsoch chi’r Prif Weinidog ddoe. Roedd yn gwbl glir bod angen i X weithredu, a bod angen iddo weithredu nawr, ac mae’n bryd i X fynd i’r afael â’r mater hwn.

“Pe bai gan gwmni cyfryngau arall fyrddau hysbysebu yng nghanol trefi yn dangos delweddau anghyfreithlon, byddai’n gweithredu ar unwaith i’w tynnu i lawr neu’n wynebu beirniadaeth y cyhoedd.”

Mewn ymateb i’r pryderon am gynnwys amhriodol o blant, dywedodd Grok ar X mai “digwyddiadau ynysig” oedd y rhain, a bod “mesurau diogelwch mewn lle” sy’n cael eu gwella’n barhaus er mwyn atal y cynnwys hwn yn gyfan gwbl."

Mae Mr Musk wedi mynnu yn y gorffennol y bydd “unrhyw un sy’n defnyddio Grok i greu cynnwys anghyfreithlon yn dioddef yr un canlyniadau ag y byddent pe baent wedi uwchlwytho cynnwys anghyfreithlon”.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.