Gadael i glwb rygbi yng Nghaerdydd aros ar agor yn hwyrach ar ôl cwynion
Fe fydd clwb rygbi yng Nghaerdydd yn cael aros ar agor tan oriau mân y bore er gwaethaf cwynion gan drigolion lleol am y safle.
Mae gan Glwb Old Illtydians Rugby ar Heol Splott drwydded i werthu alcohol rhwng 11:00 a 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Ond mae cymeradwyo'r drwydded newydd yn golygu y bydd yn cael gwerthu alcohol rhwng 11:00 a 00:00 o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 11:00 a 01:00 o ddydd Gwener i ddydd Sul.
Dywedodd un o'r trigolion a siaradodd mewn cyfarfod is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerdydd ddydd Mercher fod pobl wedi gadael y clwb rygbi a phasio dŵr ger y bloc o fflatiau lle'r oedd yn byw.
Dywedodd ysgrifennydd y clwb fod gan y safle record clir gyda'r heddlu a'r cyngor.
Cadarnhaodd aelod Ward Cyngor Caerdydd dros Adamsdown, y Cynghorydd Grace Ferguson-Thorne, ei bod wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion am y clwb rygbi.
"Nid yw'r ardal ei hun yr un hawsaf. Mae yna ychydig o heriau ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau fod y safle yn ystyriol o'i gymdogion," meddai.
"Mae'r ffaith eu bod nhw'n bwriadu aros ar agor tan 01:00 ar y penwythnosau... yn ymddangos yn ofnadwy o hwyr i mi."
Ychwanegodd y cynghorydd nad oedd ganddi unrhyw beth yn erbyn y clwb rygbi, ond ei bod yn bryderus am ba mor hwyr yr oedd yn bwriadu aros ar agor.
Dywedodd ysgrifennydd y clwb Adam Taylor fod tua 27 o gwynion yn erbyn y clwb wedi dod gan un person oedd yn byw yn agos.
"Mae'n ymwneud ag un person sydd wedi creu ffys," meddai.
Mae'r clwb rygbi hefyd wedi cytuno i nifer o amodau a gafodd eu cynnig gan yr Heddlu a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.