Canslo Ffair Aeaf Lloegr oherwydd y Tafod Glas - ond ffair Cymru 'yn mynd yn ei blaen'
Mae Ffair Aeaf Lloegr wedi cael ei chanslo oherwydd lledaeniad y Tafod Glas, ond does dim cynlluniau i ganslo Ffair Aeaf Cymru meddai'r trefnwyr.
Roedd y ffair yn Lloegr i fod i gael ei chynnal ar 16 a 17 Tachwedd yn Sir Stafford.
Dywedodd trefnwyr Ffair Aeaf Lloegr: "Gan ystyried y ffaith fod y clefyd yn parhau i ledaenu o ganlyniadau i dywydd anhymhorol o fwyn, mae'r risg o'r Parth dan Gyfyngiadau (Restriction Zone) yn cael ei ehangu i gynnwys Maes y Sioe yn ormod."
Mae Ffair Aeaf Cymru yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd wythnos yn ddiweddarach, sef 25 a 26 Tachwedd.
Mae'r achosion cyntaf erioed o'r clefyd wedi cael eu darganfod yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd.
Fe gafodd yr achosion rheini eu darganfod mewn anifeiliaid a gafodd eu symud i Gymru o Ddwyrain Lloegr.
Ond dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC nad oedd bwriad canslo y sioe yng Nghymru.
"Roeddem yn drist o glywed bod Ffair Aeaf Lloegr wedi’i chanslo oherwydd sefyllfa barhaus y Tafod Glas ac ni allwn ond cydymdeimlo â threfnwyr y digwyddiad a’r holl arddangoswyr dan sylw," meddai.
Symptomau
Mae’r Tafod Glas yn glefyd sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed gwybed sy’n cnoi (‘biting midges’), gan effeithio ar wartheg, geifr, defaid a cheirw yn bennaf, yn ogystal â chamelod fel alpacas a lamas.
Gallai symptomau o’r clefyd - all droi tafod anifeiliaid yn las - amrywio, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’u heintio.
Ond mae'r clefyd yn achosi problemau o ran cynhyrchu llaeth neu atgenhedlu, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at farwolaeth.
Mae'n broblem sylweddol bellach yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda chyfyngiadau ar symud anifeiliaid mewn grym yno.
Nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na ddiogelwch bwyd.