Cymru a Lloegr am wahardd fêps untro yr un pryd y flwyddyn nesa'
Cymru a Lloegr am wahardd fêps untro yr un pryd y flwyddyn nesa'
Fe fydd gwerthu fêps untro yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr yr un pryd y flwyddyn nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai'r rheswm am y gwaharddiad o 1 Mehefin ymlaen fydd atal niwed a difrod amgylcheddol ac amddiffyn cymunedau.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Iau y bydd fêps untro yn cael eu gwahardd yn Lloegr hefyd, a hynny ar yr un diwrnod.
Mewn datganiad, dywedodd Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS ei fod yn "rhagweld y bydd y rheoliadau yn dod i rym tua yr un pryd".
"Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosib i gydgysylltu’r gwaith o gyflwyno’r gwaharddiadau er mwyn sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth a dull cyson o orfodi ar draws y DU," meddai.
'Blaenoriaeth'
Yn ôl amcangyfrifon, fe gafodd bron i bum miliwn o fêps untro eu taflu i ffwrdd mewn gwastraff cyffredinol bob wythnos yn y DU y llynedd - bron i bedair gwaith cymaint â'r flwyddyn flaenorol.
Mae dros hanner y math o fêps sy'n cael eu defnyddio gan blant yng Nghymru yn 'debygol iawn' o fod yn anghyfreithlon yn ôl arolwg diweddar.
Yn ôl adroddiad gan elusen sy’n ceisio mynd i’r afael ag ysmygu, mae 55% o blant a phobl ifanc sy’n fêpio yn gwneud hynny gan ddefnyddio teclynnau sydd heb eu profi, gan olygu eu bod yn debygol o fod yn anghyfreithlon.
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: "Mae gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol fêps untro yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac rydym yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i fynd i'r afael â'r heriau hyn."