'Dim adnoddau' i warchod carcharorion sy'n cael eu rhyddhau'n gynnar
'Dim adnoddau' i warchod carcharorion sy'n cael eu rhyddhau'n gynnar
Croeso cynnes wedi cyfnod o dan glo.
Yma yng Ngharchar y Berwyn, fel mewn sawl carchar arall daeth cyfnod nifer i ben wrth i'r gwaith o leddfu'r pwysau ar system dan straen barhau.
Mae hi newydd droi 10.30 ac mae rhyw dwsin o garcharorion 'di'u rhyddhau.
Bosib ddim y don ddisgwyliedig.
Mae hyn sy'n digwydd yma'n Wrecsam yn rhan o'r darlun ehangach i ryddhau dros 1,000 ar draws Prydain.
Golygfa debyg yn y de.
Carcharorion Caerdydd sydd wedi treulio dros bum mlynedd dan glo yn cael eu rhyddhau os ydy 40% o'r ddedfryd wedi'i chyflawni.
Mae hyn oll yn arwydd o'r straen sydd ar garchardai a'r system gyfiawnder.
Erbyn heddiw yr unig air fedrwch chi ddweud yw bod e'n datgymalu.
"Os ydych chi'n ddigon anffodus i fod yn dioddef trais difrifol gall fod yn 3-5 mlynedd cyn bod yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron a dydy hynny ddim yn deg i'r dioddefwr, i'r diffynnydd nac i gymdeithas bod trais difrifol yn cymryd cymaint o amser i'w datrys."
Dach chi 'di bod wrthi ers 30 mlynedd.
Sut dach chi'n teimlo am ddyfodol y system?
"Dw i'n gobeithio bod ni ar y gwaelod.
"Mae'n anodd dychmygu sut gallith hi fynd yn waeth o le mae hi heddiw.
"Mae blynyddoedd o ddiffyg cyllid, toriadau, newidiadau wedi golygu bod y gyfundrefn i gyd ar ei gliniau."
Mae'r darlun felly ar draws system garchardai Cymru yn un llwm.
Ar ddiwedd 2013 roedd y nifer o garcharorion gafodd eu galw nôl i'r carchar wedi codi bron i 20%.
Dros y flwyddyn ddwetha mae dros 600 o garcharorion wedi'u rhyddhau heb nodyn o leoliad eu cartref.
Tu mewn i garchardai, fe gynyddodd nifer yr ymosodiadau ar garcharorion 80% yn 2023.
Ers agor yn 2017, mae nifer y carcharorion yn Berwyn wedi codi dros 190%.
Mae 'na ychydig dan 2,000 o garcharorion yma.
Bydd y nifer yna yn gostwng mymryn heddiw ond y cwestiwn ydy i le fyddan nhw'n mynd nesaf?
"Fyddan nhw isio rhywle i aros heno, arian am y pethe angenrheidiol.
"Does gan y gwasanaeth prawf ddim yr adnoddau i warchod y bobl yma a gwneud yn siwr bod nhw'n cydymffurfio â'r canllawiau.
"Dydy mynd rownd a rownd yn y system yn dda i ddim i neb.
"Mae'r dioddefwyr yn mynd i weld pobl yn dod allan ar ôl gwneud 40% o'r ddedfryd sy'n mynd i fod yn heriol i nhw pan maen nhw'n gweld y troseddwyr
allan yn y gymuned."
Dweud mae'r Llywodraeth eu bod wedi etifeddu system oedd ar fin dymchwel a bod rhyddhau carcharorion yr unig opsiwn er mwyn gwneud lle i garcharu'r troseddwyr difrifol.
I nifer, mae'n ddechre newydd ac eto i rai, ateb tymor byr ydy hyn i broblem sydd â gwreiddiau dyfn.