Cymru'n cymryd rhan mewn treial brechlyn i amddiffyn yn erbyn norofeirws
Bydd Cymru yn cymryd rhan mewn treial ar gyfer y brechlyn cyntaf yn y byd i amddiffyn yn erbyn y byg stumog norofeirws.
Mae norofeirws yn achosi pobol i chwydu a chael dolur rhydd, a gall ledaenu’n gyflym iawn rhwng pobl sydd mewn cysylltiad agos, gydag achosion yn aml yn digwydd mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion a meithrinfeydd.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn diwrnodau, gall y feirws fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r ifanc iawn, yr henoed neu bobl â system imiwnedd wan.
Bydd y brechlyn yn cael ei brofi ar tua 25,000 o oedolion, rhai dros 60 oed yn bennaf, mewn mwy na chwe gwlad ledled y byd dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd 2,500 o'r rheini o'r DU, gyda 27 o ysbytai a chanolfannau’r GIG yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cymryd rhan yn y treial.
Yng Nghymru, bydd pobol o fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Betsi Cadwaladr yn cael eu recriwtio.
Dywedodd yr Athro Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Ynghyd â’n partneriaid mewn diwydiant ac ar draws y GIG, mae Cymru’n falch o chwarae ei rhan yn yr astudiaeth flaenllaw newydd gyffrous hon i ddod o hyd i frechlyn yn erbyn norofirws.
"Gan ddefnyddio ein dull ‘Un Cymru’, mae gennym y gallu i sefydlu a chyflwyno treialon clinigol ar raddfa ac yn gyflym, gan sicrhau bod ein cymunedau’n gallu cyfrannu mewn ffordd sy’n ychwanegu gwerth mewn gwirionedd."
Dim brechlyn eto
Dywedodd yr ymchwilwyr pe bai’r treial yn llwyddiannus, byddai’n lleihau nifer yr oedolion bregus sydd yn yr ysbyty yn ystod y gaeaf.
Byddai hefyd yn lleihau'r baich ariannol ar y Gwasanaeth Iechyd, sy'n costio £100 miliwn i'r trethdalwr bob blwyddyn, yn ôl y Gweinidog Iechyd Wes Streeting.
Mae brechlynnau yn erbyn firysau fel ffliw a Covid eisoes yn bodoli, ond nid oes brechlyn yn erbyn norofeirws wedi'i drwyddedu.
Mae'r brechlyn norofeirws yn seiliedig ar dechnoleg mRNA ac yn cael ei wneud gan Moderna.
Fel y brechlyn Covid, mae'n rhoi cyfarwyddiadau i'n systemau imiwnedd ar sut i adnabod firws ymledol ac amddiffyn yn ei erbyn trwy gynhyrchu gwrthgyrff.
Mae'r treial yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, a Moderna.