Newyddion S4C

Gillingham yn ymddiheuro i gôl-geidwad Casnewydd yn sgil achos honedig o hiliaeth

Nick Townsend

Mae Clwb Pêl-droed Gillingham wedi ymddiheuro am achos honedig o hiliaeth tuag at gôl-geidwad Clwb Pêl-droed Casnewydd.

Mae’r Gills wedi dweud eu bod yn "condemnio'n gryf unrhyw fath o hiliaeth" ac wedi cyhoeddi datganiad yn ymddiheuro i Nick Townsend.

Dywedodd y clwb o Gaint eu bod yn credu bod yr achos honedig wedi digwydd yn ystod eu gêm yn erbyn Casnewydd yn Stadiwm Priestfield nos Fawrth.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Mae Clwb Pêl-droed Gillingham yn siomedig o orfod mynegi ei ffieiddrwydd am honiadau o gam-drin hiliol tuag at gôl-geidwad Casnewydd Nick Townsend, yn ystod 55fed munud o’r gêm heno [dydd Mawrth].

"Gan weithio gyda Heddlu Caint, Mr Townsend a’n Tîm Diogelwch mewnol, rydym wedi gallu adnabod y person sy'n cael ei honni o weiddi’r cam-drin hiliol. Os caiff ei brofi, bydd y person hwn yn cael ei wahardd o Stadiwm Priestfield.

"Fel clwb ry’n ni’n ymddiheuro i Mr Townsend ac yn condemnio pob math o wahaniaethu yn gryf. Ni fydd yn cael ei oddef yn CPD Gillingham."

Dywedodd Casnewydd eu bod yn "hynod siomedig" o glywed am yr honiadau.

"Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn condemnio’n gryf unrhyw fath o hiliaeth, rhagfarn neu wahaniaethu, ac mae ganddo bolisi dim goddefgarwch tuag at achosion o’r fath," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Mae gan Townsend gefnogaeth lawn pawb yn y clwb pêl-droed ac rydym yn cael trafodaethau cyson gyda’r chwaraewr, gan sicrhau bod ganddo’r holl gefnogaeth sydd ei angen arno."

Cadarnhaodd Casnewydd fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r digwyddiad honedig.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.