Cyhoeddi £28 miliwn i leihau amseroedd aros i gleifion
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Iechyd Cymru gyhoeddi £28 miliwn i helpu'r Gwasanaeth Iechyd i leihau amseroedd aros mewn ysbytai.
Bydd Jeremy Miles yn cyhoeddi'r cynllun ddydd Iau yn ystod ymweliad ag Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn Sir Fynwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid yn talu am fwy o apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, a chael mwy o weithio'n rhanbarthol.
Y bwriad yw lleihau amseroedd aros mewn meysydd fel gynaecoleg, offthalmoleg, orthopedeg a llawdriniaeth gyffredinol, medden nhw.
Daw'r cyhoeddiad wrth i nifer y bobl yng Nghymru sy'n disgwyl am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd godi i'w lefel uchaf erioed.
Mae cyfanswm o 796,631 o driniaethau eto i'w cwblhau - amcangyfrif o 616,700 o gleifion unigol, gan fod rhai yn disgwyl am fwy nag un driniaeth.
Fel rhan o'r cynllun i leihau'r amseroedd aros, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu sicrhau bod modd i gleifion newydd gael eu gweld.
Bydd byrddau iechyd yn lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol awtomatig pan nad oes eu hangen, medden nhw, i wneud lle ar gyfer mwy o gleifion allanol.
"Bydd yr ymyriadau hyn yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth, yn lleihau amseroedd aros am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael profion diagnostig o fewn wyth wythnos," medden nhw.
'Blaenoriaeth genedlaethol'
Dywedodd Jeremy Miles bod lleihau rhestrau aros yn "flaenoriaeth genedlaethol".
"Bydd byrddau iechyd yn defnyddio'r cyllid newydd hwn i gyflawni ystod o gynlluniau a fydd yn dechrau bron ar unwaith," meddai.
"Byddan nhw'n targedu'r arosiadau hiraf ym meysydd orthopedeg, llawdriniaeth gyffredinol, offthalmoleg a gynaecoleg drwy gynyddu capasiti er mwyn i fwy o bobl gael eu gweld a'u trin y tu allan i oriau a thrwy fwy o weithio'n rhanbarthol."
Ychwanegodd bod y Gwasanaeth Iechyd yn "gweithio'n galed iawn" i leihau'r "ôl-groniad o achosion a gynyddodd yn ystod y pandemig".
"Mae hwn yn gyllid ychwanegol, ar ben yr arian adfer rydyn ni'n ei roi bob blwyddyn, i helpu'r Gwasanaeth Iechyd i leihau'r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal wedi'i gynllunio," meddai.