Newyddion S4C

Ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr 'wedi ei adael i bydru ers blynyddoedd', yn ôl staff

ITV Cymru
Ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei "adael i bydru" ac mae problemau mawr gyda'r adeilad wedi eu hanwybyddu ers blynyddoedd, yn ôl sawl aelod o staff yr ysbyty.

Ddechrau mis Hydref fe wnaeth yr ysbyty ddatgan “digwyddiad critigol” gan ddweud bod difrod i do’r adeilad yn fwy difrifol na’r disgwyl.

Dywedodd un gweithiwr sydd ddim am ei henwi fod yr uned gofal dwys wedi’i symud a bod rhai theatrau wedi cau.

Mae Sarah, (nid ei henw iawn) yn honni ei bod wedi gweld “adar marw a phlanhigion tomatos” yn tyfu yng nghafnau’r ysbyty.

Ychwanegodd fod y to sy’n pydru mewn cyflwr llawer gwaeth na’r hyn sydd wedi’i ddatgelu’n gyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Paul Mears, fod y bwrdd iechyd wedi bod yn dryloyw gyda’r cyhoedd, gan ychwanegu: “Mae gwybodaeth wedi’i rannu gyda phawb sydd angen gwybod.”

Dywedodd wrth ITV Cymru bod contractwyr wedi dechrau gweithio ar y to, a thra nad yw'r landeri yn uniongyrchol gysylltiedig â'r trawstiau pydru, mae "gwaith i adnewyddu a glanhau'r landeri ar y gweill ar hyn o bryd".

'Mae’n ddrwg iawn'

Mae ITV Cymru wedi clywed gan sawl aelod o staff yn Ysbyty Tywysoges Cymru sy'n honni nad yw landeri'r adeilad wedi cael gofal priodol.

Dywedodd Sarah: "Mae pawb wedi bod yn dweud bod y landeri wedi'u blocio'n llwyr. Mae gennych chi lwyni, mae'n llawn tyfiant, mae adar marw yno, mae planhigion tomatos yn tyfu.

"Mae adroddiadau wedi'u gwneud yn son am ddŵr yn dod i lawr y waliau, teils nenfwd yn dod i lawr oherwydd y dŵr, maen nhw wedi dod i lawr ar gyfrifiaduron. Mae wedi bod yn ddrwg iawn, iawn."

O ganlyniad i’r difrod mae clinigau yn yr ysbyty wedi'u cau a bu'n rhaid symud rhai clinigau canser, meddai Sarah.

Image
Ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd Tom Giffard AS, sy'n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, wrth ITV ei fod wedi clywed adroddiadau tebyg am broblemau yn yr ysbyty.

“Rwyf wedi bod yn siarad ag aelodau staff sy’n gweithio yma ac sydd wedi gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a’r hyn sy’n glir iawn yw bod hyn wedi bod yn broblem am lawer, llawer hirach nag sy’n amlwg ar unwaith,” meddai.

Ddechrau mis Hydref, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyhoeddi datganiad i'r cyhoedd yn dweud bod arolwg o'r ysbyty wedi nodi "difrod mewnol hirdymor difrifol" i'r trawstiau sy'n cynnal y to.

Roedd dŵr glaw wedi bod yn mynd i mewn i'r adeilad trwy'r to, gyda llawer o'r teils yn cyrraedd "diwedd eu hoes a chwalu'n llwyr".

Mewn datganiad cynharach ynghylch y 190 o gleifion yr effeithiwyd arnynt ar unwaith, dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn gweithio'n galed naill ai i'w rhyddhau, eu trosglwyddo i gyfleusterau eraill neu eu symud i gartref preswyl neu nyrsio.

Image
Ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr

Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd wedi cydnabod y problemau gyda landeri'r ysbyty ond mynnodd nad oedd y problemau hyn wedi achosi'r problemau gyda'r to.

Dywedodd Mr Mears: “Yn amlwg, mae hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei ddatrys yn gyflym, ond mae’r problemau to sydd gennym ar hyn o bryd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, rydym wedi bod yn glir iawn o’r cychwyn cyntaf nad yw hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â y broblem cwteri.

"Rwy'n deall yn hollol o safbwynt gweledol ac o safbwynt cyd-destun, mae'n gallu gwneud i bobl feddwl mae'n rhaid bod yr hyn sydd wedi ei achosi.”

Dywedodd, er mwyn i waith gael ei wneud ar y to, bod rhannau o'r ysbyty wedi'u cau a bydd rhai cleifion yn cael eu symud i ysbytai eraill cyfagos. Mae ysbytai mawr eraill yn ardal y bwrdd iechyd yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Gan gydnabod yr effaith ar ysbytai cyfagos, dywedodd: “Nid dim ond Tywysoges Cymru sydd wedi’i heffeithio gan y digwyddiad tyngedfennol hwn, mae ein cydweithwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tywysog Siarl, ac yn wir, ein byrddau iechyd cyfagos i gyd yn cefnogi ac yn ceisio bod yn barod i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ceisio cael pobl i mewn i welyau ac i ofal mor gyflym ag y maent eu hangen."

Fodd bynnag, mae Sarah yn honni nad yw'r cyhoedd wedi cael gwybod maint y broblem.

Dywedodd: “Mae dwy theatr llygaid bellach wedi’u trosi’n uned gofal dwys, felly does dim llawdriniaethau llygaid yn digwydd.

"Does dim llawdriniaeth yn y prif theatrau. Yr unig theatrau sydd gan Dywysoges Cymru yw theatrau llawdriniaeth ddeuddydd. Felly unrhyw lawdriniaeth fawr, pe baech chi'n cwympo drosodd ac yn torri'ch clun, byddai'n rhaid i chi fynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. "

Cadarnhaodd pennaeth y bwrdd iechyd fod yr uned gofal dwys wedi'i symud a bod rhai theatrau wedi cau.

Gofynwyd i Mr Mears a oedd yn meddwl bod y bwrdd iechyd wedi bod yn dryloyw gyda'r cyhoedd. Dywedodd: "Mae gwybodaeth wedi'i rannu gyda phawb sydd angen gwybod. Mae cleifion yr effeithiwyd ar eu gofal wedi cael gwybod."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Byrddau iechyd sy’n gyfrifol am weithrediad a rheolaeth ddiogel o’u stad

“Rydym wedi dyrannu £24m yn uniongyrchol i fyrddau iechyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer gwaith seilwaith ar draws ystâd y GIG, a byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar atgyweiriad tymor hwy i do Ysbyty Tywysoges Cymru.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau ei fod yn gobeithio y bydd gwaith atgyweirio to'r ysbyty yn dechrau cyn gynted â phosib, gyda'r gobaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn yr haf nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.