Newyddion S4C

Trenau Trafnidiaeth Cymru yn teithio ar gyflymder is oherwydd 'traciau llithrig'

trenau llanbrynmair.png

Mae trenau Trafnidiaeth Cymru yn teithio ar gyflymder is ddydd Mercher oherwydd 'traciau llithrig'.

Roedd dau o drenau'r cwmni yn rhan o wrthdrawiad lle bu farw dyn yn ei 60au ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn, nos Lun. 

Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu'n ddifrifol gydag 11 yn rhagor yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty. 

Roedd y dyn a fu farw ar y trên oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru. 

Dywedodd Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) fod tystiolaeth ger safle'r gwrthdrawiad yn awgrymu y gallai olwynion un o'r trenau o bosibl fod wedi llithro wrth frecio. 

Ychwanegodd ymchwilwyr fod hyn yn awgrymu fod y trên oedd yn teithio tuag at Aberystwyth o bosib wedi llithro wrth frecio, gan achosi iddo wrthdaro ar gyflymder o 15mya gyda'r trên llonydd oedd yn teithio i gyfeiriad Amwythig. 

Image
Llanbrynmair
Roedd dau o drenau Trafnidiaeth Cymru yn rhan o wrthdrawiad lle bu farw dyn yn ei 60au ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn, nos Lun. 

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ddydd Mercher fod eu gwasanaethau yn teithio ar gyflymder is ar draws rhannau helaeth o'u rhwydwaith "yn sgil traciau llithrig".

Mae'r teithiau sydd wedi eu heffeithio yn cynnwys y canlynol:

  1. Wrecsam Cyffredinol a Bidston
  2. Abertawe ac Amwythig
  3. Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog
  4. Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro
  5. Caergybi a Chyffordd Llandudno
  6. Frodsham a Chaer

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar hyd Lein y Cambrian ar drac sengl, yn agos at drac arall lle gall trenau sy’n teithio i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd.

Dywedodd Network Rail fod un o'r trenau sy'n mynd i'r afael â'r dail sy'n disgyn yn ystod tymor yr hydref wedi teithio ar hyd y llwybr lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad nos Sul. 

Mae log mewnol o beth ddigwyddodd yn ystod y gwrthdrawiad yn dangos fod gyrrwr y trên oedd yn teithio i gyfeiriad Aberystwyth wedi adrodd eu bod wedi cyrraedd y man lle'r oedd modd pasio'r trên arall ond "nad oedd modd stopio yn sgil yr amodau".

Fe wnaeth swyddog orchymyn y trên i stopio "ar unwaith" ond nid oedd modd osgoi'r gwrthdrawiad.

Image
Gwrtgdrawiad Llanbrynmair
Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu'n ddifrifol gydag 11 yn rhagor yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty. 

Mae dail yn achosi trafferthion teithio yn ystod yr hydref gan eu bod yn aros ar draciau llaith ac yn cael eu cywasgu gan olwynion trên. 

Mae hyn yn creu haen esmwyth a llithrig ar y traciau, gan leihau rheolaeth gafael y trenau.

Dywedodd yr RAIB y byddant yn cyhoeddi rhagor o ddiweddariadau am eu hymchwiliad yn y dyddiau nesaf. 



 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.