'Ymddygiad ffiaidd': Carcharu dyn am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon
Mae dyn o Bwllheli wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a mis am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon.
Ymddangosodd Michael Owen Williams, o Ddolfor, Pwllheli, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Roedd Williams, 36, wedi pleidio'n euog i aflonyddu ar sail hil a thorri gorchymyn atal troseddau rhyw ym mis Medi.
Clywodd y llys ei fod wedi mynd at ddynes a'i phlant yng ngorsaf fysiau Caernarfon ar 9 Awst, gan ddechrau ei cham-drin yn hiliol.
Roedd wedi gweiddi arni i “fynd yn ôl o ble daethoch chi” a dweud wrthi “dydych chi ddim yn perthyn yma”, gan adael y ddynes a'i phlant yn teimlo'n ofidus.
Clywodd y llys fod y digwyddiad wedi arwain at Williams yn torri ei orchymyn atal troseddau rhyw a dderbyniodd yn 2008.
Roedd y gorchymyn yn ei wahardd rhag mynd at ferched a'u haflonyddu.
Mae wedi cael gorchymyn i beidio mynd yn agos i'r ddynes am dair blynedd.
'Ymddygiad ffiaidd'
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: “Roedd hwn yn ymddygiad ffiaidd a dargedwyd at ddynes oherwydd ei hil.
“Ni fydd hyn yn cael ei oddef yng Ngwynedd, a byddwn yn delio’n gadarn ag unrhyw achosion o droseddau casineb.”
Dylai unrhyw un sy'n profi cam-drin hiliol roi gwybod i'r heddlu drwy eu gwefan neu ffonio 101.