Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn y de a'r canolbarth ddydd Gwener

Rhybudd tywydd

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt ar gyfer de a rhannau o ganolbarth Cymru ddydd Gwener, gyda hyrddiau o 70 milltir yr awr neu fwy yn bosib mewn rhai ardaloedd.

Mae’r rhybudd yn cynnwys 16 o siroedd yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys, yn ogystal â’r cymoedd a’r arfordir deheuol.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai gwyntoedd cryfion o’r gorllewin a’r gogledd-orllewin ddod â hyrddiau o rhwng 50 a 60 milltir yr awr.

Fe allai’r hyrddiau gyrraedd 70 milltir yr awr neu fwy mewn rhai mannau arfordirol neu agored. 

Ond mae ansicrwydd ynglŷn â ble fydd y gwyntoedd cryfaf.

Mae posibilrwydd y bydd adeiladau’n cael eu difrodi, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau, ac fe allai malurion sy’n cael eu chwythu gan y gwynt achosi anafiadau neu berygu bywyd.

Fe allai’r tywydd hefyd darfu ar wasanaethau trenau, bysiau, awyrennau a fferïau, gyda theithiau’n cymryd mwy o amser neu’n cael eu canslo.

Mae siawns fach y bydd rhai ffyrdd a phontydd yn cau, ac y bydd toriadau trydan a allai effeithio ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffonau symudol.

Bydd cyfnodau o law trwm hefyd yn gwneud teithio’n anoddach.

Er y bydd hi’n parhau’n wyntog, mae disgwyl i’r gwyntoedd leddfu rhwng diwedd y bore a dechrau’r prynhawn ddydd Gwener.

Mae’r rhybudd yn cynnwys yr 16 sir ganlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Cyngor

Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i sicrhau bod unrhyw eitemau rhydd y tu allan i’w cartrefi, fel biniau, dodrefn gardd a thrampolinau, wedi’u clymu neu eu cadw’n ddiogel.

Mae hefyd yn cynghori pobl i wirio cyflwr y ffyrdd ac amserlenni trafnidiaeth cyn teithio, ac i baratoi ar gyfer toriadau trydan drwy gadw tortshis, batris a gwefrwr cludadwy wrth law.

Ar yr arfordir, mae rhybudd y gallai tonnau mawr a deunydd sy’n cael ei daflu o draethau achosi anafiadau neu beryglu bywyd.

Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ofalus ger y môr a chlogwyni, ac i gadw cŵn ar dennyn.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn pwysleisio y gall rhybuddion newid yn gyflym, ac yn cynghori pobl i gadw llygad ar y rhagolygon lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.