'Pam ddylian ni fynd i Lundain?': Tad yn galw am well triniaeth canser yng Nghymru

Y Byd ar Bedwar

'Pam ddylian ni fynd i Lundain?': Tad yn galw am well triniaeth canser yng Nghymru

Mae tad dyn ifanc a fu farw o ganser yn galw am weithredu ar frys er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at yr un triniaethau, gofal a threialon clinigol â chleifion yn Lloegr.
 
Fe wnaeth Huw Jones, a oedd yn 33 oed ac yn dod o Gorwen yn Sir Ddinbych, deithio 30 o weithiau i Lundain i dderbyn triniaeth treial clinigol ar ôl cael diagnosis o cholangiocarcinoma, sef canser sy’n effeithio ar ddwythellau’r bustl (bile ducts).


Yn ôl Gareth Jones, bu’n rhaid i’r teulu wneud ei ymchwil ei hun i ganfod triniaeth a wnaeth ymestyn bywyd ei fab.

"Mae angen llwybr pendant ar gyfer rhywun sy'n dioddef o'r math yma o gancr - bod y driniaeth yna a'r treialon a'r ymchwil i gyd wedi cael eu gwneud," meddai Gareth. 

"'Sa’n berffaith 'san ni'n medru aros yng Nghymru a chael yr un driniaeth, yr un gofal, â ‘dan ni’n gael dros Glawdd Offa. 

"Pam ddylian ni fynd i Lundain ddeg ar hugain o weithiau?"

Amser gwerthfawr gyda’r teulu

Cyn derbyn ei ddiagnosis ym mis Medi 2024, roedd Huw yn hyfforddi ar gyfer triathlon pan deimlodd e boen yn ei abdomen. 

Ar ôl i sgan ddatgelu tiwmor ar ei afu a oedd wedi lledaenu, a chael cadarnhad mai cholangiocarcinoma oedd y math o ganser, cafodd Huw a’i deulu wybod nad oedd treialon clinigol yn opsiwn iddo.

Ar ôl i’w chwaer, Catrin, a’i bartner, Cadi, wneud ymchwil bellach, daethon nhw o hyd i dreialon ar gyfer y cyffur Zanidatamab yn Ysbyty Coleg y Brifysgol yn Llundain. 

Er bod y diwrnodau teithio rhwng Corwen a Llundain yn hir a blinedig, caniataodd y driniaeth i Huw fyw yn hirach na’r disgwyl.

Image
Priodas Cadi a Huw gyda Idris.
Huw a Cadi ar ddiwrnod eu priodas gyda'u mab Idris (Llun: Heledd Roberts)

Yn ystod yr amser hwnnw, priododd Huw a Cadi, a gwelodd ei fab, Idris, yn cael ei eni ac yn dathlu ei ben-blwydd yn un oed, cyn iddo farw ym mis Chwefror eleni.

"Y gobaith bod ni’n cael amser yw’r unig beth oeddan ni isio," meddai Cadi. 

"Ro’n i’n gwybod bod petha'n eitha’ drwg - ‘sna’m miracles math o beth - ond jyst i gael y mwya’ o amser oeddan ni'n gallu cael, mae rhywun yn cael lot mwy o obaith."

Achosion ar gynnydd

Mae bron i 90% o bobl sydd â cholangiocarcinoma yn derbyn diagnosis yn rhy hwyr, sy’n golygu nad yw llawdriniaeth yn opsiwn - yr unig ffordd o wella’n gyfan gwbwl.

Yn ôl Trish Duncan, llawfeddyg arbenigol canser yr afu ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae’r math hwn o ganser bellach yn gyfrifol am tua 50% o atgyfeiriadau.

"Y peth ‘dwi'n teimlo sy'n gywilyddus yw nad yw'r data hwn yn cael ei gasglu yn swyddogol ar gyfer cholangiocarcinoma yng Nghymru," meddai Trish Duncan. 

"Dylen ni wybod faint o bobl sy'n byw gydag ef, faint o bobl sy'n cael triniaeth, a beth yw canlyniadau'r driniaeth honno i'n poblogaeth, er mwyn i ni allu rhoi'r gofal gorau iddynt."

Image
Huw Cadi a Idris
Huw, Cadi ac Idris

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu Strategaeth Ganser Genedlaethol sydd i fod i gael ei chyhoeddi ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, gyda’r nod o wella gwasanaethau a chanlyniadau canser.

Dywedodd Trish Duncan: "Mae hwn yn gyfle enfawr i ni wella gofal canser, gwella canlyniadau, a chynnig cefnogaeth i gleifion canser yng Nghymru; ond nid yw strategaeth ar ei phen ei hun yn ddigon. Mae angen strategaeth arnom sy'n gallu newid pethau a sicrhau canlyniadau i gleifion canser."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ry’n ni’n cynnal isadeiledd ymchwil cynhwysfawr sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni pob math o ymchwil canser.

"Mae’r penderfyniadau am ble i gynnal treialon clinigol yn cael eu gwneud gan y noddwyr, ond ry’n ni’n deall pa mor bwysig yw hyn i gleifion a theuluoedd sy'n gobeithio cael mynediad at driniaethau newydd."

I deulu Huw Jones, mae’r frwydr dros well gofal ac ymwybyddiaeth yng Nghymru yn parhau yn ei enw ef.

"Roedd o’n awyddus i drafod ei stori fo ac i dd’eud yr hanes i godi ymwybyddiaeth," meddai Gareth. 

"Y cwbl fedrwn ni 'neud ydy cario 'mlaen y gwaith yna wnaeth o ddechrau - mynd â hwnnw nôl i Gymru - dyna sy’n bwysig i ni, fel teulu."

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Y Canser Cudd, nos Lun (19/10/26), 20:00, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.