'Rhyddhad enfawr': Undeb yn croesawu swyddi i raddedigion nyrsio
Mae undeb nyrsio wedi croesawu’r cyhoeddiad bod dros 250 o raddedigion nyrsio ychwanegol wedi sicrhau swyddi yn GIG Cymru, ond wedi rhybuddio bod rhai yn dal i wynebu heriau wrth geisio dod o hyd i waith.
Dywedodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (RCN) fod y cynnydd yn “rhyddhad enfawr” i nifer o nyrsys newydd oedd wedi bod yn poeni am eu gyrfaoedd.
Daw’r ymateb wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod 253 o raddedigion nyrsio ychwanegol bellach wedi sicrhau swyddi yn GIG Cymru, yn dilyn uwchgynhadledd ym mis Mehefin.
Mae holl raddedigion nyrsio Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor bellach wedi sicrhau swyddi.
Ond dywedodd cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru, Nicola Williams, fod nifer fach o raddedigion yn dal heb gael swyddi.
“Er bod hyn yn gynnydd sylweddol, mae nifer fach o raddedigion yn dal heb gael swyddi addas, ac mae byrddau iechyd yn parhau i chwilio am swyddi gwag addas,” meddai.
“Rydym yn gwybod nad yw’r her bellach yn ymwneud â chyfanswm y swyddi sydd ar gael yn unig.”
Dywedodd fod rhai graddedigion yn methu â symud i ardaloedd lle mae swyddi gwag oherwydd ymrwymiadau teuluol, tra bod cyfleoedd cyfyngedig mewn rhai meysydd nyrsio, gan gynnwys iechyd meddwl ac iechyd plant.
Dywedodd Ms Williams fod nifer y bobl sy’n derbyn lle ar gyrsiau nyrsio yng Nghymru wedi gostwng 26% ers 2022, sef y gostyngiad mwyaf o blith gwledydd y DU.
“Ni allwn ganiatáu i’r sefyllfa hon gael ei hailadrodd ar gyfer myfyrwyr nyrsio sy’n graddio dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt,” meddai.
'Llawer o waith i'w wneud'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cyflwyno cyfnod ychwanegol i ddyrannu swyddi wedi bod yn “allweddol” i’r cynnydd.
Mae 28 o raddedigion eraill naill ai wedi sicrhau gwaith drwy lwybrau eraill neu nid ydynt ar gael i weithio ar hyn o bryd.
Dywedodd y llywodraeth fod digon o swyddi gwag ar gael ar y cyfan i helpu’r graddedigion sy’n dal heb waith, a bod ymdrechion yn parhau i ddod o hyd i swyddi addas iddyn nhw.
Bydd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Llun, lle mae graddedigion Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl wedi sicrhau swyddi.
Dywedodd y gweinidog fod y sefyllfa “wedi gwella’n sylweddol” ers yr uwchgynhadledd ym mis Mehefin.
“Rwy’n deall yn iawn pa mor bryderus y mae’r sefyllfa wedi bod i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd newydd gymhwyso ac sy’n aros i ddechrau eu gyrfaoedd,” meddai.
Ond dywedodd ei fod hefyd yn cydnabod “llawer o waith i’w wneud eto”, yn enwedig ar gyfer graddedigion bydwreigiaeth.
Un sydd wedi sicrhau swydd yw Mirain Breese, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf ac sydd bellach yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd fod cyfuno astudiaethau, lleoliadau clinigol a magu teulu wedi bod yn heriol.
“Roedd gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn agos at adref, mor bwysig imi," meddai.
“Rwy'n hynod falch fy mod i wedi cwblhau'r cwrs, cymhwyso'n nyrs a chael swydd yn lleol yn gofalu am gleifion yn fy nghymuned fy hun.”
Llun: Prifysgol Bangor
