Afon Taf: Olew yn parhau i ollwng meddai Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud ei fod yn “anodd” dod o hyd i darddiad gollyngiad olew sydd wedi llygru hyd at bedwar cilometr o Afon Taf.
Dywedodd y corff ddydd Sadwrn fod hyd at 25,000 litr o gerosîn wedi ei ollwng i’r afon yn dilyn adroddiadau am ollyngiad ddydd Gwener.
Mae’r llygredd wedi effeithio ar drigolion sy’n byw mewn sawl ardal, gan gynnwys Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.
Dywedodd Curig Jones o Gyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn sefyllfa “cymhleth” a’u bod yn defnyddio drôn i hedfan dros yr afon i weld yr effaith.
Roedd cerosîn yn parhau i ollwng i’r afon, meddai wrth Radio Cymru fore Llun.
“Er ein bod ni wedi lleihau faint o danwydd sydd yn mynd i mewn i’r afon, yn amlwg da ni angen rhoi stop arno yn gyfan gwbl,” meddai.
“A dyna beth 'dan ni’n canolbwyntio ar wneud heddiw.
“'Dan ni’n defnyddio pethau fel lliw olrhain gwyrdd yn yr afon. Dydi o ddim yn gwneud niwed o gwbwl ond mae’n helpu ni i ddarganfod tarddiad y llygredd.”
Ychwanegodd eu bod nhw’n ceisio atal cymaint o’r cerosîn a phosib cyn iddi fynd i mewn i’r afon.
Roedden nhw’n ceisio darganfod faint o bysgod oedd wedi marw hefyd er mwyn gweld faint o effaith oedd y llygredd wedi ei gael, meddai.
‘Gweithio’n agos’
Cadarnhaodd cwmni GE Aerospace fod tanwydd wedi mynd i’r afon wrth i waith atgyweirio fynd rhagddo ar ei safle gerllaw.
“Diogelwch ein gweithwyr, ein cymdogion a’r amgylchedd yw ein prif flaenoriaeth,” meddai GE Aerospace mewn datganiadi'r BBC.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i lanhau tanwydd a ollyngodd ar y safle tra oedd gwaith atgyweirio’n mynd rhagddo.”
Yn ôl adroddiadau, mae trigolion sy’n byw ger yr afon wedi mynegi pryder bod y llygredd wedi achosi cur pen a phroblemau i lygaid a gyddfau.
Mae Newyddion S4C hefyd wedi clywed bod pysgod wedi marw yn yr afon yn dilyn y gollyngiad.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei fod yn “cymryd camau i fynd i'r afael â'r llygredd parhaus sy'n effeithio ar tua 4km o Afon Taf.”
Mae’r corff yn “parhau i ymchwilio” i ffynhonnell y llygredd.
Dywedodd llefarydd: “Mae'r camau a gymerwyd hyd yn hyn wedi lleihau'n sylweddol faint o danwydd sy'n dianc o'r safle trwy ei system ddraenio danddaearol.
“Mae rhwystr arnofiol a deunyddiau amsugnol wedi'u gosod ar yr afon fechan sy'n llifo i'r brif afon, er mwyn ceisio atal unrhyw danwydd sy'n dal i ddianc.
“Mae gweithredwr y safle yn parhau i dynnu cymaint o danwydd â phosibl o'r system ddraenio, er mwyn cyfyngu ar y risg iddo ddianc i'r amgylchedd.
“Bydd gwaith asesu pellach a chasglu tystiolaeth o'r effaith yn parhau heddiw; mae swyddogion yn bwriadu defnyddio drôn i arolygu'r Afon Taf ac asesu'r effaith.”
Ychwanegodd y corff fod “yr arogl tanwydd cryf, a effeithiodd ar y gymuned leol yn gynharach yn ystod y digwyddiad, yn lleihau.”
'Cau drysau a ffenestri'
Fodd bynnag, mae’r corff yn parhau i gynghori trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau tra bod yr arogl yn bresennol ac osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr.
Mae hefyd yn cynghori unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â’r cerosîn i olchi'r ardal yr effeithiwyd arni â dŵr cynnes a sebon.
Yn ôl y corff, mae’n “annhebygol” y bydd dod i gysylltiad â’r tanwydd yn achosi unrhyw effeithiau andwyol.
Mae’r corff hefyd yn cynghori unrhyw un sy’n teimlo’n sâl i geisio cyngor meddygol drwy ffonio GIG 111 Cymru.
Mae un o drigolion yr ardal wedi codi pryderon am ymateb CNC i'r digwyddiad.
Mewn datganiad a anfonodd Gareth Llywelyn at Newyddion S4C, dywedodd: "Rwy'n gwerthfawrogi bod dod o hyd i ffynhonnell digwyddiad llygredd a'i ynysu yn cymryd amser. Ond mae hynny'n codi cwestiynau difrifol iawn."
"Sut wnaeth gollyngiad ar y raddfa hon barhau am oriau? Pam y caniatawyd i gymaint o danwydd ddianc i'r afon, yn ôl pob golwg? A ble roedd y mesurau diogelwch?"
Mae hefyd wedi mynegi pryder am yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt yr afon.

