'Y Gorllewin Gwyllt': Galw am fwy o reoleiddio ar y diwydiant trawsblannu gwallt
Mae llawfeddyg o Gymru wedi galw am reoleiddio’r diwydiant trawsblannu gwallt yn fwy llym wrth i nifer y triniaethau sy’n mynd o chwith gynyddu.
Mae diwydiant trawsblannu gwallt y DU yn werth dros £100 miliwn.
Ond mae llawfeddyg sydd wedi’i leoli yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, wedi rhybuddio bod rhai ymarferwyr “dibrofiad iawn sydd heb gymwysterau digon da” yn gweithio yn y diwydiant.
Dywedodd Dr Ted Miln wrth raglen Wales This Week yr hoffai “weld pob person sy’n gwneud llawdriniaethau trawsblannu gwallt yn cael ei reoleiddio”.
Fel arfer, mae llawdriniaeth trawsblannu gwallt yn golygu tynnu gwallt o gefn neu ochrau’r pen, lle mae’n llai tebygol o ddisgyn allan, a’i osod mewn toriadau bach yng nghroen blaen y pen.
Mae Dr Miln wedi disgrifio’r diwydiant fel y “Gorllewin Gwyllt”.
“Yr hyn rwy’n ei weld o ddydd i ddydd yn fy mhractis yw pobl sy’n dioddef yn seicolegol am eu bod yn teimlo eu bod wedi colli eu hunaniaeth o ganlyniad i alopecia androgenetig, sef cyflwr sy’n effeithio ar rai pobl.
“Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ein rheoleiddio ni. Mae’r adeilad rydyn ni ynddo yn ysbyty annibynnol yn ôl diffiniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Felly, ydw, yn bendant, rwy’n credu y dylai gydymffurfio â safonau meddygol.”
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy’n gyfrifol am gofrestru, arolygu a rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru.
Mae’r arolygiaeth yn annog unrhyw un sydd â phryderon am wasanaeth gofal iechyd a allai fod yn gweithredu heb y cofrestriad angenrheidiol i roi gwybod iddi, er mwyn iddi allu “cymryd camau priodol”.
‘Wythnosau o hyfforddiant’
Mae un clinig yng Nghaerdydd, Head Quarters (HQ) Hair Transplants, yn cael ei redeg gan y cyn-chwaraewr rygbi Xavier Rush.
Dywedodd Mr Rush fod ei glinig yn aml yn cywiro triniaethau sydd wedi mynd o chwith neu sydd heb roi canlyniadau boddhaol.
Yn ôl Mr Rush, mae’r clinig yn cynnal tua 40 o lawdriniaethau trawsblannu gwallt bob mis, ac mae tua 20% ohonyn nhw’n driniaethau cywiro.
Dywedodd wrth raglen Wales This Week ar ITV Cymru Wales ei fod ef ei hun wedi cael tair llawdriniaeth trawsblannu gwallt, ar ôl y “profiad poenus iawn” o fynd yn foel.
Eglurodd llawfeddyg yn yr un clinig, Dr Rahman Hayat, fod gwahanol fathau o glinigau yn gweithredu yn y DU.
“Bydd gennych dechnegydd sydd efallai wedi cael pedair neu bum wythnos o hyfforddiant, ac sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r driniaeth,” meddai.
“Felly bydd y llawfeddyg yn dod i mewn ac yn marcio llinell y gwallt, ac yna bydd y technegydd yn tynnu’r gwallt.”
Ychwanegodd fod math arall o glinig yn cael ei arwain gan lawfeddyg, a bod y rhain “ychydig yn ddrutach”.
Dywedodd Dr Hayat fod ei glinig ef yn cael ei arwain gan lawfeddygon, ac mai un llawdriniaeth y dydd yn unig y mae pob llawfeddyg yn ei chynnal fel arfer.
Ychwanegodd: “Yn y DU does dim rheoliadau ynghylch pobl sydd ddim yn feddygon yn tynnu’r gwallt ac yn gwneud toriad.
“A dweud y gwir, ddylai neb heblaw meddyg fod yn gwneud toriad, oherwydd os ydych chi’n gwneud 3,000 o doriadau bach, mae cyfanswm hyd y toriadau hynny’n wyth metr.”
“Ddylai neb sydd ddim yn gallu delio â chymhlethdodau’r triniaethau hynny gael eu cyflawni.”
‘Anodd rheoleiddio’
Mae Cymdeithas Llawdriniaeth Adfer Gwallt Prydain (BAHRS) wedi cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r enw ‘Who Makes The Cut’.
Nod yr ymgyrch oedd addysgu pobl sy’n ystyried cael y driniaeth am “beryglon posibl llawdriniaethau trawsblannu gwallt ar y farchnad ddu”.
Dywedodd llywydd y gymdeithas, Dr Chris D’Souza: “Mae’n rhaid i chi ofyn pwy sy’n gwneud y camau llawfeddygol. A mynnu ateb clir gan bobl ar hynny, gan ofyn yn benodol: ‘Wel, pwy sy’n gwneud beth?’”
Mae BAHRS yn cynrychioli technegwyr yn ogystal â llawfeddygon, a dywedodd y gymdeithas “na fyddai’n bosibl” cynnal llawdriniaethau trawsblannu gwallt hebddyn nhw.
Yn ôl y gymdeithas, mae gan dechnegwyr “rôl allweddol” wrth helpu i gyfrif a gosod impiadau gwallt (grafts), ond mae’n argymell na ddylen nhw wneud unrhyw doriadau.
Ychwanegodd Dr D’Souza ei bod yn anodd dweud pa mor eang yw’r broblem o driniaethau sy’n mynd o chwith, er iddo gadarnhau ei bod ar gynnydd.
“Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o glinigau trawsblannu gwallt yn gweithredu o dan y radar, felly mae’n anodd iawn gwybod faint o drawsblaniadau sy’n mynd o chwith. Does dim rhestr o ddarparwyr llawdriniaethau trawsblannu gwallt yn y DU.
“Ond mae’n bendant yn broblem sydd ar gynnydd ledled y byd. Ac eto, mae’n anodd iawn ceisio rheoleiddio diwydiant os nad ydych chi wir yn gwybod beth sy’n digwydd ynddo.”
Dim ond ymarferwyr sydd â thrwydded gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) sy’n gallu cynnal llawdriniaethau meddygol ymledol.
Ond gan fod trawsblannu gwallt yn cael ei ystyried yn driniaeth gosmetig, nid yw’n dod o fewn y categori hwn.
O ganlyniad, mae ansicrwydd ynghylch pwy sy’n cael cynnal y camau llawfeddygol yn gyfreithlon a phwy ddylai fod yn gyfrifol amdanyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pobl sy’n cynnal triniaethau trawsblannu gwallt fod “wedi cael hyfforddiant priodol” a “bodloni’r safonau y mae rheoleiddwyr proffesiynol yn eu gosod”.
