Caniatâd i droi tŷ hanesyddol yn Eryri yn llety gwyliau ar ôl gwrthwynebiad
Mae cynllunwyr Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio tŷ sydd â chysylltiadau â phensaer enwog Portmeirion fel llety gwyliau, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol “cryf”.
Fe wnaeth Clough Williams-Ellis addasu a throsi Tŷ Drum, sydd wrth droed mynydd y Cnicht, yn dŷ haf preifat i Christabel Macnaghten. Fe ddaeth Christabel Macnaghten yn Arglwyddes Aberconwy.
Cafodd yr adeilad traddodiadol yng Nghroesor, Llanfrothen, ei godi tua 1864 yn wreiddiol i wasanaethu chwareli llechi Croesor a Rhosydd.
Clywodd pwyllgor cynllunio’r parc fod gwrthwynebiad lleol “cryf” i’r cais i’w ddefnyddio fel llety gwyliau. Er hynny cafodd y cynllun ei gymeradwyo’n unfrydol mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Roedd y gwrthwynebwyr yn cynnwys Cyngor Cymuned Llanfrothen, a ddywedodd fod gormod o lety gwyliau yn yr ardal.
Fe wnaeth y pwyllgor gymeradwyo cynllun i droi’r adeilad carreg traddodiadol yn llety gwyliau hunanddarpar (defnydd C6) fel rhan o fenter wledig, ynghyd â gosod paneli solar a thanc septig newydd.
Daeth y cais gan Robert McLaren drwy ei asiantau, Smith & Brooke Architects.
Roedd adroddiad i’r pwyllgor yn disgrifio’r tŷ fel adeilad sydd yng nghanol fferm Garreg Hylldrem.
Yr unig ffordd o gyrraedd y tŷ yw ar hyd trac y mae gan yr ymgeisydd hawl i’w ddefnyddio.
Mae’r adeilad ar restr yr awdurdod o adeiladau lleol traddodiadol neu hanesyddol, ac mae wedi cadw ei “ffurf hanesyddol wreiddiol a’i nodweddion allanol”.
Mae hefyd o fewn ardal Parc a Gardd Hanesyddol Gofrestredig Gradd II Parc, Croesor, yn rhan uchaf Ystâd Brondanw.
‘Cadw’r adeilad ar gyfer y dyfodol’
Dywedodd asiant yr ymgeisydd, y pensaer Michael Brooke, wrth y pwyllgor cynllunio fod ei gleient wedi cael “yr anffawd o gael Tŷ Drum yn rhodd gan ei nain”.
“Does ganddo ddim defnydd cynllunio, mae’n sui generis [y tu allan i’r categorïau defnydd cynllunio safonol],” meddai.
“All e wneud dim ond gwersylla ynddo. Mae wedi cael ei ymestyn – fe wnaeth Clough [Williams-Ellis] ei ymestyn 70 mlynedd yn ôl i gadw diddordeb hanesyddol y tŷ haf.
“Ar ôl 70 mlynedd, mae’r to’n gollwng ac mae’r ffenestri mewn cyflwr difrifol, yn mynd yn ddarnau.
“Daeth yr ymgeisydd ata i a dweud: ‘Beth ydw i i’w wneud? Mae angen i mi wario tua £200,000 fwy na thebyg i gadw’r adeilad, ac alla i ddim am nad ydw i’n byw yma i gael newid defnydd – wel, unrhyw ddefnydd o gwbl.’
“Yr unig ddewis sydd gen i o dan bolisïau Parc Cenedlaethol Eryri yw cael caniatâd i’w ddefnyddio fel llety masnachol, fel rhan o fenter wledig sy’n rhan o Ystâd Brondanw.
“Byddai hynny’n ei alluogi i gael incwm a chadw’r adeilad ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y byddai gosod yr adeilad yn fasnachol yn creu gwerth tua £10,000 o waith i’r gymuned leol bob blwyddyn ar gyfartaledd, ynghyd â £7,500 o wariant mewn siopau lleol.
“Rwy’n credu mai dyma’r ateb gorau i gadw’r adeilad hwn, rhoi defnydd iddo a sicrhau budd i’r gymuned,” ychwanegodd.
Gwrthwynebiad
Wrth wrthwynebu’r cais, dywedodd Cyngor Cymuned Llanfrothen: “Hoffen ni i’n sylwadau ar y cais gwreiddiol gael eu nodi, sef bod gormod o lety gwyliau yn yr ardal.”
“Rydyn ni hefyd yn nodi bod gwrthwynebiad lleol cryf i’r cais,” ychwanegodd y cyngor.
Dywedodd nad oedd “wedi’i argyhoeddi bod y dystiolaeth ariannol briodol na’r meini prawf ar gyfer menter wledig wedi’u bodloni”.
Daeth chwe llythyr o wrthwynebiad i law hefyd.
Roedd un yn cyfeirio at “lety gwyliau arall” ac yn dadlau y byddai’r tŷ “yn gartref addas i deulu lleol”.
Roedd eraill yn nodi y byddai trigolion parhaol “yn cyfrannu’n economaidd yn gyson drwy gydol y flwyddyn” drwy wario mewn siopau lleol ac ar wasanaethau.
Roedd llythyr arall yn nodi bod Croesor a Llanfrothen yn wynebu “prinder difrifol o gartrefi i bobl leol”, gan gyfeirio hefyd at yr effaith ar y gymuned Gymraeg.
Doedd gan Cadw ddim gwrthwynebiad i’r cais.
Dywedodd y corff y byddai “newid defnydd i lety masnachol yn caniatáu gwneud gwaith atgyweirio hanfodol ac yn sicrhau bod gan yr adeilad ddefnydd a’i fod yn cael ei gadw mewn cyflwr da yn y dyfodol”.
Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd John Pughe Roberts: “Ddylen nhw ddim newid arddull y tŷ, mae’n hanesyddol. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni gefnogi’r cais hwn, neu fe fyddwn ni’n ei golli.”

