Babi ymysg chwech wedi marw ar ôl i gwch mudwyr suddo yng Ngwlad Groeg
Mae babi ymhlith chwech o fudwyr sydd wedi marw ar ôl i gwch cyflym oedd yn cludo pobl o Dwrci wrthdaro â llong gwylwyr y glannau yng Ngwlad Groeg.
Fe wnaeth y cwch droi drosodd oddi ar ynys Lesbos yn oriau mân fore Llun, yn ôl awdurdodau Gwlad Groeg.
Mae gwylwyr y glannau wedi dweud bod achubwyr wedi dod o hyd i gyrff pedwar dyn, un fenyw a babi.
Fe oroesodd wyth o bobl, a gafodd eu cludo i’r ysbyty.
Digwyddodd y ddamwain tua 3.5 milltir forol i’r de o Agrilia, Lesbos.
Mae’r awdurdodau wedi arestio dinesydd o Dwrci, 37 oed, a oedd ymhlith y goroeswyr.
Maen nhw’n amau mai ef oedd yn gyrru’r cwch a’i fod yn ymwneud â smyglo pobl.
Mae gweinidog morgludiant Gwlad Groeg, Vassilis Kikilias, wedi beio smyglwyr pobl am y marwolaethau.
“Mae’r drasiedi a ddigwyddodd yn y môr ger Lesbos yn ein llenwi â thristwch a dicter,” ysgrifennodd mewn neges ar X.
“Collodd chwech o bobl eu bywydau, gan gynnwys babi, oherwydd gweithredoedd troseddol smyglwyr pobl.”
Dywedodd fod y dystiolaeth hyd yma yn awgrymu bod blaen y cwch cyflym wedi taro ochr chwith llong gwylwyr y glannau.
Ychwanegodd fod ymchwiliad i union amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau.

