Môn: Cyhuddo dyn lleol o lofruddio ei dad yng Nghaergybi

Llys Watling, Caergybi

Mae dyn 33 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad mewn fflat yng Nghaergybi yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Fe wnaeth Martin Ward o Gaergybi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno fore dydd Llun ar gyhuddiad o ladd Michael Ward, oedd yn 53 oed.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ar ôl gwrandawiad byr.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Lys Watling, Ffordd Llundain am 02:42 gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn digwyddiad mewn fflat.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Michael Ward yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Richard Sidney: "Mae ein swyddogion yn parhau yn y cyfeiriad tra bod ein hymholiadau'n parhau.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad tra bod swyddogion yn parhau yn y lleoliad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.