Andy Burnham: 'Chafodd Aberfan ddim ei drin yn gywir'

Andy Burnham: 'Chafodd Aberfan ddim ei drin yn gywir'

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi ymweld ag Aberfan cyn y digwyddiadau i gofio 60 mlynedd ers y drychineb a laddodd 116 o blant a 28 oedolyn.

Diflannodd bron i genhedlaeth gyfan ar ôl i Ysgol Gynradd Pantglas a 18 o gartrefi gael eu claddu o dan domen lo a lithrodd i lawr y mynydd ar 21 Hydref 1966. 

Wrth siarad â darlledwyr, eglurodd Andy Burnham pam ei fod e wedi penderfynu dod i'r pentref ddydd Llun.  

“Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig iawn i nodi arwyddocâd y 60 mlynedd a fydd yn cael ei nodi ddydd Mercher,” meddai.  

 “Mae'n 60 mlynedd ers i'r un o'r trasiediau mwy erchyll yn hanes y DU. Colli'r holl blant hynny. Fe soniodd fy mam a nhad wrthai am hynny pan roeddwn yn blentyn. 

“Rydw i yma i gydnabod y gymuned, yr hyn mae'r gymuned wedi ei phrofi, ac yn y ganolfan gymunedol yma, mae'n gyfle i ddiolch iddyn nhw am fod yn gefn i'w gilydd. Mae cryfder y gymuned yn rhywbeth gweladwy ac yn rhywbeth y medrwch ei deimlo.”   

Gwadodd y Bwrdd Glo mai nhw oedd yn gyfrifol am y drychineb am flynyddoedd, a mynnodd Llywodraeth Lafur San Steffan ar y pryd, fod cyfran o'r arian er mwyn clirio'r tomenni yn glo yn dod o'r gronfa a oedd wedi ei hagor ar gyfer plant a theuluoedd Aberfan.   

Cyfeiriodd Andy Burnham at hynny wrth newyddiadurwyr.

“Dw i yma i ddweud wrthyn nhw hefyd. Dydw i ddim yn meddwl y cafodd Aberfan ei drin yn gywir gan yr awdurdodau, ac mae angen i hynny gael ei gydnabod 

“Oherwydd ar foment fel hon, rwy'n credu bod angen i'r holl bethau hynny gael eu dweud, ac mae'n briodol fod y Prif Weinidog fod yma i ddweud hynny wrthyn nhw.”

Diogelwch 

Ychwanegodd fod diogelwch tomenni glo, yn enwedig yn hen gymunedau glofaol de Cymru yn “eithriadol o bwysig,” gan nodi bod angen sicrhau fod yr holl domenni sy'n dal i fodoli yng Nghymru yn ddiogel. 

“Rwy'n cynrychioli hen ardal lofaol fy hun, felly rwy'n deall yn llwyr bwysgrwydd y materion hyn. 

“Mae Llywodraeth y DU yn darparu tua £140 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac mae'n nhw'n ychwanegu cyllid ychwanegol eu hunain. Mae'r arian yno.

“Mae sefydliad ar fin dechrau ar ei waith er mwyn rheoli'r holl risgiau.  

“Gallaf eich sicrhau fy mod wedi ymrwymo i hynny, ac wrth gwrs byddwn yn gnweud yn siŵr fod y pethau cywir yn cael eu gwneud, er mwyn sichrau fod holl gymunedau Cymru yn ddiogel,” meddai.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.